Corffluniwr 60 oed o Flaenau Ffestiniog i gystadlu ym Mhencampwriaeth Prydain
Corffluniwr 60 oed o Flaenau Ffestiniog i gystadlu ym Mhencampwriaeth Prydain
"Na’i hyfforddi tan dwi’n marw - ac os na’i farw fory, mae pobl sy’n nabod fi’n iawn yn gwybod na’i farw’n hapus."
Ers dros 30 mlynedd, mae Hywel Wyn Griffiths o Flaenau Ffestiniog wedi bod yn hyfforddi ac yn cystadlu yn y byd corfflunio.
Ac yntau bellach yn 60 oed, bydd yn teithio i Burnley yng ngogledd Lloegr ddydd Sadwrn er mwyn cystadlu ym Mhencampwriaeth Corfflunio Prydain.
Dechreuodd taith ffitrwydd Hywel pan oedd yn byw adref gyda'i deulu yn ystod ei arddegau hwyr.
"Oedd Dad yn yfed lot, oedd gynno fo broblem efo cwrw - problem mawr, mawr," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mi oedd hi’n amser digon cas pan oedden ni’n ifanc. Do’n i ddim yn licio’r bywyd yna.
"Unwaith nes i gyrraedd tua 16 neu 17 oed, nes i feddwl, na, dwi'm isho mynd lawr y ffor' yna. So nesh i ddechrau rhedeg - rhedeg mynydd, rhedeg ffordd.
"Wedyn es i i’r gampfa i drio cryfhau fy hun ar gyfer rhedeg mynydd, ac mi ddaru’r boi ddeud, ‘Argian, ti’n reit dda - pam nei di’m aros yma?’ A dyna nesh i."
'Edrych fel map o Gymru'
Er bod corfflunwyr cystadleuol ym Mhrydain fel arfer yn eu 30au cynnar ar gyfartaledd, mae Hywel yn dal i hyfforddi ar lefel uchel yn 60 oed.
Dros y chwe wythnos diwethaf, mae'r Cymro wedi bod yn hyfforddi bum gwaith yr wythnos yng Nghampfa Valhalla yn Wrecsam.
"Dwi ddim wedi tynnu’r top ’ma off unwaith - dwi ddim wedi dangos fy hun," meddai.
"'Da chi ddim yn dangos dim byd. 'Da chi’n gorfod cadw fo dan y flanced, achos os 'da chi’n dangos be’ sydd gynnoch chi, 'da chi’n torri’n rhy fuan."
Yn ogystal â’r hyfforddiant dwys, mae’r corffluniwr yn dilyn deiet llym sy’n golygu torri siwgr allan er mwyn cael gwared â braster.
Fodd bynnag, mae’r broses yn newid yn llwyr yn ystod yr wythnos olaf cyn y gystadleuaeth.
Yn lle torri bwyd ymhellach, mae Hywel wedi dechrau ailgyflwyno siwgr i’w ddeiet.
"Wythnosau’n ôl o’n i’n edrych hanner marw ac yn wag oherwydd y diffyg siwgr, ond wan dwi’n llenwi nôl i fyny," meddai.
"Be’ dwi’n neud rŵan ydy rhoi’r siwgr nôl i mewn, ac mae siwgr yn cymryd lot o ddŵr. Tacsi i’r siwgr ydy dŵr - mae’n mynd â fo i’r cyhyrau ac i’r iau."
Diwrnod cyn y gystadleuaeth, mae Hywel yn dweud fod ei strategaeth yn newid eto.
Y cam nesaf, meddai, yw lleihau’r dŵr yn y corff er mwyn gwneud y cyhyrau a’r gwythiennau’n fwy amlwg.
"Be’ na’i ddydd Gwener ydy stopio’r dŵr tua hanner dydd - dim yfed dim dŵr wedyn," meddai.
"Nos Wener ga’i ddau shot o whisgi neu wydriad o win, ac mae hwnna’n sychu chi allan mwy.
"Wedyn ga’i nionyn i dynnu dŵr o’r gwaed, a trifle efo 'chydig bach o siwgr.
"Yn y bore, na’i ddeffro’n edrych fel map o Gymru - leins ym mhob man ac wedi chwyddo i gyd."
Yn ôl Hywel, gall y diffyg siwgr fod yn heriol iawn ar adegau.
"Mae’ch meddwl yn chwarae triciau arnoch chi. Os ewch chi dair wythnos heb siwgr, dydy’r meddwl ddim yn gweithio’n iawn - 'da chi’n cwestiynu’ch hun drwy’r amser, felly pwyll pia hi," meddai.
"Ond ar ôl 30 mlynedd o ddeietio, dwi wedi arfer erbyn hyn."
Bydd y bencampwriaeth yn Burnley ddydd Sadwrn yn nodi ei ugeinfed gystadleuaeth.
"O’n i’n 60 oed ym mis Mawrth ac o’n i’n sylwi tro ’ma, er bo fi’n neud o mewn amser bach, oedd hi’n anoddach cael gwaelod y stumog allan," meddai.
Waeth beth fydd y canlyniad ddydd Sadwrn, mae’n dweud mai’r peth pwysicaf iddo yw ei fod yn dal i allu gwneud yr hyn mae’n ei garu.
"Mae ’na lot wedi rhoi’r gorau iddi. Does ’na ddim lot wedi aros yn y gêm, felly dwi’n reit browd o hynny ar ôl 40 mlynedd," meddai.
"Dwi’n dal i fynd fel bo' fi ’di dechrau ddoe - ac os dwi dal yma, dwi’n mynd i neud o eto pan dwi’n 70 oed."