Cyhoeddi enillwyr prif wobrau'r dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd
Mae enillwyr Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones wedi eu cyhoeddi ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Sadwrn.
Dyfarnwyd Medal Bobi Jones (19-25 oed) i Katie Baddiley sy’n wreiddiol o Nottingham ond bellach yn byw yng Nghaernarfon, a Medal y Dysgwyr (Bl.10 ac o dan 19 oed) i Caerwyn Saunders o Dreorci.
Dechreuodd Katie Baddiley ddysgu Cymraeg yn 2023 pan symudodd i Fangor i astudio yn y Brifysgol. Mae'n Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) ac yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn Nyffryn Nantlle.
Dywedodd Eisteddfod yr Urdd ei bod “hi wedi newid cyfrwng iaith ei bywyd yn llwyr mewn amser byr, ac yn awyddus i helpu dysgwyr eraill ar eu taith”.
Dywedodd Katie Baddiley: “Dwi’n teimlo’n gryf y dylai unrhyw un sy’n gweithio mewn ardal Gymraeg efo’r cyhoedd ddangos parch drwy ymdrechu i siarad Cymraeg gyda nhw.
“Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i fynychu cwrs yn Nant Gwrtheyrn ac i ddysgu Cymraeg drwy fy ngwaith. Dwi’n mwynhau canu yn y Gymraeg gyda Chôr Heddlu Gogledd Cymru. Hoffwn fagu plant sy'n rhugl yn y Gymraeg un diwrnod ac efallai ysgrifennu colofn yn y Gymraeg yn fy mhapur bro lleol.”
Mae Caerwyn Saunders yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Treorci ac yn aelod brwd o’r Urdd sy’n gwirfoddoli ac yn cystadlu yn aml mewn eisteddfodau.
Mae’n Gadeirydd ar y 'Criw Cymraeg' yn yr ysgol, ac yn falch iawn o fod yn llysgennad ysgol i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dywedodd Caerwyn Saunders: “Mae’r Urdd wedi agor drws i fyd hollol newydd i fi a dwi wedi bod yn lwcus i gael fy ysbrydoli gan athrawon anhygoel bob dydd yn yr ysgol yn Nhreorci, yn enwedig Mrs James, sy’n rhoi popeth er mwyn codi statws y Gymraeg yn yr ysgol.
"Hoffwn fod yn athro Cymraeg yn y dyfodol – i ysbrydoli eraill i gadw’r iaith yn fyw.
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb – a dyma’r neges dwi’n benderfynol o’i lledaenu.”
Mae hi'n 40 mlynedd ers cyflwyno Medal y Dysgwyr am y tro cyntaf, yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen 1986.
Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei dyfarnu i berson ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 mlwydd oed sy’n gallu dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu’r gwaith ac yn gymdeithasol.
Mae Medal Bobi Jones yn cael ei dyfarnu i unigolyn 19-25 mlwydd oed sydd yn dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd drwy ateb cwestiynau am eu rhesymau dros ddysgu’r iaith, yr effaith mae dysgu’r Gymraeg wedi ei gael ar eu bywydau, a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.
Llun: Urdd Gobaith Cymru