Carcharu dyn 28 mlynedd ers iddo ymosododd yn rhywiol ar ferch ysgol

Richard Downey

Mae dyn a ymosododd yn rhywiol ar ferch ysgol 13 oed wrth iddi gerdded adref o’r llyfrgell bron i dri degawd yn ôl wedi cael ei garcharu yn Llys y Goron Casnewydd.

Cafodd Richard Downey ei ddedfrydu i wyth mlynedd o garchar gyda chyfnod estynedig o ddwy flynedd ar drwydded.

Ar 23 Medi 1997, ymosododd Downey, oedd yn 26 oed ar y pryd ond sydd bellach yn 55 oed, yn rhywiol ar ferch yn ei harddegau oedd yn gwisgo ei gwisg ysgol ar lwybr troed ger Wyllie, Coed-duon. 

Wedi’i arfogi â sgriwdreifar, ymosododd Downey ar y dioddefwr o'r cefn a rhoi ei ddwylo dros ei cheg. Yn ystod yr ymosodiad, fe wnaeth gyffwrdd yn y ferch yn rhywiol a chyflawni gweithred rywiol arno'i hun.

Llwyddodd y dioddefwr ifanc i redeg i ffwrdd ar ôl brwydro o'i afael.

Fe gafodd sampl DNA ei gasglu oddi ar esgid y dioddefwr ar y pryd, ond nid oedd yn cyfateb ag unrhyw un oedd ar gofnod. 

Datblygiadau fforensig

Fe arweiniodd datblygiadau fforensig yn 2022 at adnabod Downey a’i arestio.

Ar ddiwedd yr achos fe'i cafwyd yn euog o dair trosedd, oedd i gyd yn ymwneud â’r ymosodiad ar y ferch.

Yn ei datganiad dioddefwr, dywedodd y dioddefwr: “Er mai dim ond am ychydig funudau y parhaodd yr ymosodiad, mae’r effaith a gafodd arnaf wedi para trwy gydol fy oes.

"Yn 13 oed, doeddwn i ddim hyd yn oed yn deall beth oedd yn digwydd yn iawn a beth oedd e'n ei wneud.

“Doeddwn i byth yn meddwl y byddai fy ymosodwr yn cael ei ddwyn o flaen llys. Nawr fod hynny wedi digwydd, fe alla i dynnu llinell o dan beth ddigwyddodd a symud ymlaen â fy mywyd, gan wybod bod y cyfan drosodd a’i fod wedi cael ei ddal yn gyfrifol.”

Ymosodiad 'brawychus'

Dywedodd Catherine Miles o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Bu i Richard Downey ymosod yn rhywiol ar blentyn mewn modd dychrynllyd a brawychus wrth iddi gerdded adref o’r llyfrgell. 

"Efallai ei fod yn meddwl y gallai osgoi cael ei gosbi am ei drosedd ar ôl yr holl flynyddoedd, ond llwyddodd tystiolaeth DNA a gyflwynwyd yn yr achos i brofi ei fod yn euog.

“Mae ei ddedfryd heddiw yn dangos bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ymrwymo i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell pan fodlonir y prawf cyfreithiol i wneud hynny, waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio.

“Rydym ni’n gobeithio bod y dioddefwr yn cael rhywfaint o gysur o wybod bod ei hymosodwr wedi cael ei ddwyn gerbron y llys o’r diwedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.