Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad angheuol yn Sir Benfro
27/08/2022
Ffordd Freemens
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn marwolaeth dyn mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro.
Bu farw dyn oedd yn gyrru beic modur yn y gwrthdrawiad yn ymwneud â phedwar car ar Ffordd Freemens yn Hwlffordd am tua 17.30 nos Wener.
Fe fu farw’r dyn yn y fan a’r lle.
Ni chafodd unrhyw un arall ei anafu.
Bu’n rhaid cau’r ffordd am rai oriau yn dilyn y gwrthdrawiad.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan nodi cyfeirnod DP-20220826-338.
Llun: Google