Costau ynni: Angen cymorth ar enillwyr canolig medd y Canghellor

Fe fydd angen cymorth ar enillwyr canolig yn ogystal â phobl ar incwm isel yn ôl y Canghellor Nadhim Zahawi.
Dywedodd Mr Zahawi efallai y bydd angen cymorth ar bobl sydd yn ennill £45,000 y flwyddyn.
Ychwanegodd fod y Trysorlys yn edrych ar “yr opsiynau i gyd.”
Fe gyhoeddodd Ofgem ddydd Gwener fe fydd y cap ar filiau ynni yn codi i £3,549 y flwyddyn.
Mae hyn yn gynnydd o 80% ers mis Ebrill pan oedd biliau ar gyfartaledd wedi codi i £1,971 y flwyddyn.
Mae disgwyl i 24 miliwn o dai ar hyd Prydain gael eu heffeithio wrth i'r codiad ddod i rym ar 1 Hydref.
Darllenwch fwy yma.