Heddlu yn arestio ail ddyn ar amheuaeth o lofruddio Olivia Pratt-Korbel

Mae Heddlu Glannau Mersi wedi arestio ail ddyn ar amheuaeth o lofruddio Olivia Pratt-Korbel yn Lerpwl.
Cafodd y ferch naw oed ei saethu yn ystod ymosodiad yn ardal Dovecot o’r ddinas nos Lun.
Fe gafodd heddlu arfog eu defnyddio er mwyn arestio dyn 33 oed o ardal Dovecot brynhawn Gwener, sydd hefyd wedi'i arestio ar amheuaeth o ddau gyhuddiad o geisio llofruddio.
Mae dyn arall, sy’n 36 oed, eisoes wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Olivia.
Darllenwch fwy yma.