Newyddion S4C

‘Ddim digon yn cymryd mantais o ddillad ysgol ail law’

28/08/2022

‘Ddim digon yn cymryd mantais o ddillad ysgol ail law’

Mewn cyfnod o argyfwng costau byw a newid hinsawdd, does dim digon yn cymryd mantais o ddillad ysgol ail law yn ôl rheolwr siop gymunedol yng Ngwynedd.

Ellen Owen yw rheolwr siop gymunedol O law i law yng Nghaernarfon. Mae’r siop yn gwerthu neu gyfnewid eitemau ail law o ansawdd dda.

Mae’r siop yn gwerthu dillad ysgol gyda phrisiau mor isel â 50 ceiniog am grys ysgol.

Mae’r siop hefyd yn gweithio yn agos gyda gwasanaeth cymdeithasol yr ardal er mwyn creu pecynnau dillad ysgol i’r rhai sydd eu hangen.

“’Da ni wedi cael toman ddillad ysgol i mewn i’r siop, a ‘da ni’n mynd trwy bob un dilledyn i wneud yn siŵr ei bod nhw’n iawn. Gwneud yn siŵr bod dim byd wedi torri neu fod ‘na ddim twll mewn pen-glin trowsus ne rhywbeth,” meddai Ellen  wrth Newyddion S4C.

“Mae’r dillad ar gael wedyn yn rhesymol ofnadwy.

“Ma’ nhw mewn ansawdd da ofnadwy, achos yn ystod y pandemig gath lot o honnyn nhw ddim ei defnyddio- da ni wedi cael llwyth.”

Image
S4C
Ellen Owen yw rheolwr y siop gymunedol O law i law yng Nghaernarfon.

Dros yr wythnosau diwethaf mae’r siop wedi derbyn “toman o ddillad ysgol”, ond mae gwerthiant y dillad yn “araf iawn” yn ôl Ellen.

“Ma hi wedi bod yn slo yma o ran gwerthiant. Ella bod ‘na rhai yn teimlo ‘dwi ddim isio cael fy ngweld mewn siop elusen’.

“Ond ma’ O law i law yn siop gymunedol, bob dim da ni’n cael, bob dim da ni’n gwerthu, bob dim ‘da ni’n gyfnewid neu roi drwy’r cyngor, mae o yn help mawr i’r blaned a’r bobl.

“Ond ‘da ni wir angen chydig bach o bwsh, jyst i ddeud ‘da ni yma a dyma be da ni’n neud.’”

Mwy o gefnogaeth

Mae Ellen yn galw ar Gyngor Gwynedd i annog y rheini a gwarchodwyr i brynu dillad ysgol o siopau fel O law i law i ddechrau, cyn mynd i siopau eraill.

Yn ôl Ellen byddai hyn yn “safio arian ac yn help mawr i’r amgylchedd.”

Yng Ngwynedd mae grantiau gwerth £300 i bob disgybl cymwys ym Mlwyddyn 7 a £225 i bob disgybl uwchradd cymwys mewn blynyddoedd ysgol eraill, hyd at Flwyddyn 11.

Mae’r cyngor yn gweinyddu’r cynllun Grant Datblygu Disgyblion ar ran Llywodraeth Cymru, ac yn talu’r grant yma ar ffurf siec neu drosglwyddiad uniongyrchol i gyfrif banc.”

Mae Ellen yn credu nad yw’r cynllun presennol yn hysbysebu dillad ysgol ail law.

“Dwi’n meddwl am fod lot o honnyn nhw’n cael grantiau i gael gwisg ysgol, maen nhw’n tueddu i fynd am y rhai newydd.

“Swni yn licio mwy o bwsh gan y cyngor. Iddyn nhw ddeud wrth bobl; ‘cyn i chi fynd i’r siopa eraill cerwch i checkio be da chi’n chwilio am yn fanno, os ddim wedyn mynd i’r siopa eraill yma'.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Mae nifer fawr o ysgolion a mudiadau cymunedol yn rhedeg eu cynlluniau eu hunain i ailgylchu a ffeirio dillad ysgol ac fel Cyngor rydym yn cefnogi hyn a byddwn yn annog rhieni i ystyried cyfnewid dillad gyda theuluoedd eraill ble bynnag mae modd.”

Mae Ellen yn “falch iawn” o weld cymunedau yn dod ynghyd i sicrhau gwisg ysgol daclus i bawb.

“Dwi wedi sylwi bod pobl yn rhoi dillad ysgol di nhw ddim isio ar Facebook am ddim neu yn rhad, a ma’ hynny'r un peth a gwaith ni yma mewn ffordd.

“Dwi yn falch o hynny, achos wedyn ma’r dillad ‘ma yn cael eu hail defnyddio ac yn helpu teuluoedd. A dyna be’ dio, bod y dillad ddim yn mynd i wastraff.

Cymunedau yn dod ynghyd

Mae pentref Llanrug yn enghraifft lle mae’r gymuned wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i roi neu gyfnewid dillad ysgol ail law.

Y Cynghorydd Beca Brown sy’n rhedeg y cynllun yn Llanrug ac mae hi wedi syfrdanu faint o ddillad ysgol gynradd ac uwchradd mae hi wedi derbyn.

“Nes i roi neges allan ar Facebook yn gofyn a oes gan bobl rhoddion o ddillad ysgol ac wedyn bo fi’n pasio nhw mlaen i blant sydd angen y dillad ysgol. Gyda’r argyfwng costa byw sy’n bodoli o’n i yn meddwl bod o yn syniad da ac ymarferol.” Meddai’r cyng Beca Brown wrth Newyddion S4C.

“Dwi’n cofio fy hun, yn fam sengl i ddau o blant mae gwisgoedd ysgol yn gallu bod yn ofnadwy o ddrud ac maen nhw’'n tyfu allan o’r dillad yn sydyn iawn yr oedran yna.”

Image
S4C
Mae'r cynghorydd Beca Brown yn casglu a dosbarthu dillad ysgol ail law ym mhentref Llanrug, Gwynedd. 

Mae Cyng Beca Brown yn pryderu bod stigma yn dal i fodoli am ddillad ail law.

“Dwi wedi bod yn sbïo ar yr holl roddion ‘ma dwi wedi derbyn ac yn meddwl lle bysa’r gwisgoedd ‘ma wedi mynd.

“O ran yr egwyddor ehangach, o ran ail gylchu mae o yn hynod o bwysig. Beth sydd wedi bod yn braf ydi gweld rhieni a phlant yn rhoi eu hen ddillad ysgol.

“A ma’ hynny mor bwysig. Y ffaith bo’ ni’n normaleiddio dillad ail law ac ail gylchu a bod ni ddim yn rhoi'r ffocws ar gael pethau newydd drwy’r adeg. Mae’n bwysig bod plant yn tyfu fyny ac yn gweld bod dillad ail law ddim yn rhywbeth eilradd.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.