Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru'n 'cynyddu'r risg' i wasanaethau cyhoeddus
Gallai cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gynyddu'r risg i wasanaethau cyhoeddus a chyllid Cymru, yn ôl arbenigwyr.
Dywedodd melin drafod The Institute for Fiscal Studies (IFS) fod y gyllideb yn ei ffurf bresennol yn afrealistig, a gallai roi straen ar wasanaethau rheng flaen.
Mae'r gyllideb ddrafft yn cael ei chario drosodd o'r llynedd ond mae taliadau i wahanol adrannau wedi'u codi yn unol â rhagolwg chwyddiant y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.
Ar hyn o bryd, mae tua £380 miliwn yn parhau heb ei ddyrannu yn y gyllideb.
Mae Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford, wedi annog pleidiau gwleidyddol eraill i helpu'r Llywodraeth i lunio fersiwn derfynol "fwy uchelgeisiol" o'r gyllideb.
Chwyddiant
Ond mae'r IFS wedi rhybuddio na fydd y cynnydd sy'n seiliedig ar chwyddiant i gyllidebau adrannol yn ddigonol, a dywedodd fod costau a galw cynyddol yn golygu y byddai angen y rhan fwyaf, os nad y cyfan, o'r cyllid sydd heb ei ddyrannu eto i gynnal gwasanaethau allweddol fel iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd David Phillips, un o gyfarwyddwyr yr IFS: “Gyda chynnydd llai yn y cyllid cyffredinol nag yn y blynyddoedd diwethaf, ei ddiffyg mwyafrif, ac etholiad cystadleuol iawn ar y gorwel, mae gosod cyllideb ar gyfer 2026–27 yn ddiamau yn dasg heriol i Lywodraeth Cymru.
“Fodd bynnag, nid yw’r dull a gymerwyd yn y gyllideb ddrafft...yn ‘fusnes fel arfer’ fel y mae Ysgrifennydd Cyllid Cymru wedi’i honni o’r blaen.
“Mewn gwirionedd, byddai angen cynnydd llawer mwy ar rai gwasanaethau fel iechyd a gofal cymdeithasol dim ond i gynnal gwasanaethau yn wyneb cynnydd mewn galw a chostau, gan awgrymu penderfyniadau anodd ar gyfer gwasanaethau eraill.
“Byddai ei gadael hi tan ar ôl yr etholiadau i egluro’r cyfaddawdau hynny’n creu risgiau ymarferol a gwleidyddol."
“Gyda dros dri mis tan bleidlais ar y gyllideb yn y Senedd ym mis Ionawr, mae lle – ac, mae’n ymddangos, awydd – i drafod rhwng Llywodraeth Cymru a’r gwrthbleidiau.
“Mae’r ffaith nad yw mwy o arian nag arfer wedi’i ddyrannu i wasanaethau penodol eto yn rhoi mwy o gyfle i’r pleidiau eraill lunio’r gyllideb nag arfer – ac o bosibl hefyd i fod yn fwy atebol am benderfyniadau cyllideb anodd hefyd.”
Effeithiau 'trychinebus'
Ar ôl cyhoeddi’r gyllideb ddrafft yr wythnos diwethaf, rhybuddiodd Mr Drakeford am effeithiau “trychinebus” os na fydd yn cael ei phasio ym mis Ionawr.
Wrth basio ei chyllideb ddiwethaf ym mis Mawrth, roedd angen cymorth aelod o’r wrthblaid ar Lywodraeth Cymru i’w chael drwodd o drwch blewyn.
Er mai Llafur yw'r blaid fwyaf yn y Senedd, nid oes ganddi fwyafrif, a gallai isetholiad yn etholaeth Caerffili yr wythnos hon wneud y bleidlais gyllidebol nesaf hyd yn oed yn anoddach os bydd y blaid yn colli'r sedd.
Llun: Llywodraeth Cymru