Mari Grug: 'Peidiwch â cholli gobaith'

Mari Grug

Mae'r cyflwynydd Mari Grug wedi dweud ei bod eisiau dangos fod "bywyd yn gallu cario mlaen fel mam, gwraig a ffrind", a hithau'n derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron cam pedwar.

Yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, mae Mari, sy’n wyneb cyfarwydd ar raglenni Heno a Prynhawn Da, wedi rhannu ei phrofiad personol o fyw gyda'r canser metastatig yn ei bron, sydd hefyd wedi ymledu i rannau eraill o’r corff, mewn rhaglen ddogfen arbenng ar S4C.

Yn y rhaglen 'Mari Grug: Un dydd ar y tro', mae’r camerâu wedi bod yn dilyn Mari wrth iddi wynebu triniaeth, heriau corfforol ac emosiynol, yn ogystal ag adegau o lawenydd gyda’i theulu a’i phlant ifanc.

Fe gafodd Mari ddiagnosis o ganser y fron yn 2023 pan yn 38 oed, ac erbyn hyn mae'r canser wedi ymledu i’w nodau lymff a’i hafu.

Image
Mari Grug

Er bod y sefyllfa’n un heriol, mae Mari yn pwysleisio nad yw diagnosis o ganser metastatig yn golygu diwedd y stori: “Dwi eisiau i bobl wybod os gewch chi ddiagnosis o ganser metastatig, peidiwch â cholli gobaith. 

"Byddwch yn realistig, ie, ond peidiwch â meddwl ‘dyna ni’. Mae triniaethau’n datblygu drwy’r amser. Chi’n gallu byw bywyd llawn gyda’r cyflwr."

'Dim lot ni'n gallu neud'

“Pan glywais fod y canser wedi lledu, dywedwyd wrtha i ‘bod dim lot ‘ni’n gallu neud’, a jest gofal lliniarol ('palliative care') oedd ar gael. Roedd hynny’n ergyd.

“Mae pobl yn meddwl am ofal lliniarol fel gofal diwedd oes. Ond mewn gwirionedd mae’r math yma o ofal wedi datblygu’n fawr."

Ychwanegodd: “Roedd lot o herio yn y misoedd cynta’ ‘na wedi i mi gael y diagnosis bod y canser wedi lledu, a ges i sioc mod i’n gorfod brwydro. Nes i fod yn ryw fath o production manager ar fy salwch i. Falle ar bapur doedd y doctoriaid ddim yn mynd i roi llawdriniaeth i fi achos bo’ fi wedi mynd yn rhy bell.

“Roedd fel petai ryw ‘flow chart’ ganddyn nhw’n penderfynu pwy sy’n cael beth, yn hytrach na meddwl am yr unigolyn. Roeddwn i’n 38, yn fam i dri o blant bach, a ro’n i jest eisiau teimlo bod nhw’n mynd i wneud popeth posib i’m helpu.”

Image
Mari Grug

Er gwaethaf yr heriau sy’n ei hwynebu, mae Mari’n cyfaddef iddi fod ‘yn berson gwydr hanner llawn’ erioed:

“Pan ti’n clywed bod gen ti gyflwr sy’n mynd i roi terfyn ar dy fywyd yn gynt nag wyt ti eisiau, mae pob blwyddyn ychwanegol yn anrheg. Dwi jest eisiau gweld fy mhlant yn cyrraedd cerrig milltir eu bywydau, a gwneud y mwyaf o’r amser sydd gen i gyda nhw.

“Dwi’n trio dangos iddyn nhw fod bywyd yn dal yn werthfawr, hyd yn oed gyda diagnosis fel hyn. Dwi’n sâl, ond dwi’n dal yma. Ac ni’n mynd i wneud y mwyaf o bob eiliad. Dwi’n lwcus fy mod i’n gallu gwneud hynny o hyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.