Ceredigion: Person wedi ei anafu wedi tân 'sylweddol' mewn adeilad

Ystwyth

Cafodd unigolyn ei anafu mewn tân 'sylweddol' mewn adeilad yng Ngheredigion ddydd Mawrth.

Ychydig cyn 11:00 cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o orsafoedd Tregaron, Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan eu galw i ddigwyddiad yn Ysbyty Ystwyth.

Roedd y tân mewn tŷ un llawr oedd yn mesur tua 10 metr wrth 8 metr, a oedd wedi llosgi'n ddrwg pan gyrhaeddodd y criwiau tân.

Defnyddiodd y criwiau un jet rîl pibell, dau jet 45mm, dau set o offer anadlu, ac un pwmp ysgafn i ddiffodd y tân. 

Sefydlwyd system gyfnewid dŵr o lyn cyfagos a defnyddiwyd camerâu thermol i fonitro'r eiddo ar ôl i'r tân gael ei ddiffodd. 

Cafodd yr eiddo ei ddifrodi'n sylweddol gan y tân.

Cafodd un person ei drin am anafiadau gan barafeddygon y Gwasanaeth Ambiwlans yn y fan a'r lle, cyn cael ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.

Roedd y digwyddiad hwn yn arbennig o anodd i griwiau oherwydd mynediad cyfyngedig, gyda'r lôn un trac sy'n arwain at yr eiddo yn anhygyrch i beiriannau tân.

Gadawodd y criwiau'r lleoliad am 15.11.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.