Tonysguboriau: Menyw wedi ei saethu'n farw yn sgil 'gwrthdaro rhwng gangiau cyffuriau'

Joanne Penney
Joanne Penney

Mae llys wedi clywed fod menyw wedi cael ei saethu’n farw ar ôl i wrthdaro rhwng gangiau cyffuriau droi'n dreisgar.

Cafodd Joanne Penney, oedd yn 40 oed, ei lladd wrth iddi agor drws fflat yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf, ym mis Mawrth eleni.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher fod Ms Penney wedi cael ei saethu o bellter agos yn ei brest ar ôl cael ei herio yn ardal Llys Illtud o'r dref.

Dywedodd yr erlynydd, Jonathan Rees KC, wrth y rheithgor mai’r cymhelliad honedig dros y saethu oedd gwrthdaro rhwng dau gang cyffuriau cystadleuol.

Mae chwech o bobl: Marcus Huntley, 21; Kristina Ginova, 21; Joshua Gordon, 27; Tony Porter, 68; Melissa Quailey-Dashper, 40; a Jordan Mills-Smith, 33; i gyd wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth.

Wrth agor yr achos ar ran y Goron, dywedodd Mr Rees: "Ar 9 Mawrth 2025, agorodd Joanne Penney ddrws ffrynt 10 Llys Illtyd, Tonysguboriau, a chafodd ei saethu yn ei chalon gydag un fwled a gafodd ei danio o wn o bellter agos.

"Prin y llwyddodd i gamu’n ôl i ystafell fyw’r cyfeiriad cyn cwympo i’r llawr a marw eiliadau’n ddiweddarach.

"Cefndir y lladd oedd gwrthdaro rhwng grwpiau troseddau cyfundrefnol cystadleuol. Un dan arweiniad Joshua Gordon, grŵp rydyn ni'n ei alw'n Rico OCG, y llall dan arweiniad Daniel 'Jimmy' Joseph.

"Roedd Mr Gordon, sydd hefyd yn cael ei alw'n Rico neu Reece, yn ymwneud â masnachu cyffuriau difrifol gyda'i gariad, Kristina Ginova, yng Nghaerlŷr ond roedd wedi ymestyn ei fasnach cyffuriau i dde Cymru."

Gwrthdaro

Clywodd y llys fod Huntley, Mills-Smith a dyn arall hefyd yn rhan o'r grŵp Rico a oedd yn ymwneud â masnachu cyffuriau.

Roedd Quailey-Dashper a'i phartner, Porter, yn honedig yn ymwneud â'r fasnach gyffuriau yng Nghaerlŷr.

"Nid oedd y ffaith bod Mr Gordon wedi ehangu i dde Cymru a Thonysguboriau wedi cael ei dderbyn yn dda gan grŵp cystadleuol o werthwyr cyffuriau dan arweiniad Daniel Joseph a oedd hefyd yn gweithredu yn yr ardal," meddai Mr Rees.

"Ar ddau achlysur cyn 9 Mawrth, roedd Daniel Joseph a'i ddynion wedi wynebu a bychanu aelodau o'r grŵp Rico pan oeddent yn ardal Tonysguboriau."

Dywedwyd wrth y rheithgor, ar noson y saethu, fod Gordon, Huntley, Mills-Smith a Quailey-Dashper wedi cael eu gyrru i Tonysguboriau gan Porter.

Arhosodd Gordon a Porter yn y car tra bod y lleill yn cerdded at ddrws y fflat, a oedd yn gysylltiedig â'r fasnach gyffuriau.

Yn y cyfamser, arhosodd Ginova mewn bwyty yng Nghaerdydd gyda ffôn symudol Gordon.

"Curodd Miss Quailey-Dashper y drws ffrynt ac yna symudodd i'r ochr tra bod Mr Huntley, a oedd yn sefyll wrth ochr Mr Mills-Smith, wedi mynd yn ei flaen i saethu'r person a agorodd y drws," meddai Mr Rees.

"Rhedodd Miss Quailey-Dashper, Mr Huntley a Mr Mills-Smith yn gyflym yn ôl i'r car lle'r oedd Mr Porter a Mr Gordon yn aros cyn i Mr Porter yrru i ffwrdd."

Ychwanegodd Mr Rees: "Efallai mai Marcus Huntley wnaeth saethu, ond achos yr erlyniad yw bod Joshua Gordon, Marcus Huntley, Jordan Mills-Smith, Melissa Quailey-Dashper, Kristina Ginova a Tony Porter yn gyfrifol ar y cyd am ei llofruddiaeth.

"Chwaraeon nhw eu rhan ym marwolaeth Joanna Penney – gan wybod eu bod nhw’n gweithredu i achosi, neu’n cynorthwyo neu’n annog eraill i achosi, o leiaf anaf difrifol iawn i berson arall."

Gwasanaethau brys

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r cyfeiriad gan Jade Williams ychydig ar ôl 18.00 y noson honno, yn dilyn adroddiad bod menyw wedi’i saethu.

Daeth yr heddlu o hyd i Ms Penney ar lawr ystafell fyw y fflat. Cyhoeddwyd ei bod hi wedi marw yn y fan a’r lle.

Clywodd y llys fod gan yr eiddo, sef cyfeiriad cartref Katie Summers, hanes sy’n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau.

Roedd brawd Ms Summers yn y cyfeiriad gyda Ms Williams pan ddigwyddodd y saethu, clywodd y llys.

Dywedodd Mr Rees: "Y stori gychwynnol oedd bod cnoc ar y drws, Joanne Penney wedi ei agor, ac yna sŵn ergyd gwn.

"Daeth yn ôl i’r ystafell fyw, lle’r oedd y lleill, a dywedodd ei bod wedi cael ei saethu cyn cwympo ar y llawr."

Mae Huntley, o Gaerdydd; Ginova, o Sir Gaerlŷr; Gordon, o Sir Gaerlŷr; Porter, o Sir Gaerlŷr; Quailey-Dashper, o Sir Gaerlŷr; Mills-Smith, o Gaerdydd, i gyd yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth.

Mae Gordon, Quailey-Dashper, Ginova, a Porter yn gwadu ail gyhuddiad o gymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol ac yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol rhwng Mawrth 2024 a Mawrth 2025.

Mae Huntley a Mills-Smith wedi pledio’n euog i’r cyhuddiad hwnnw.

Mae’r achos yn parhau.

 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.