Cynllun i symud ysgol uwchradd ym Môn i safle newydd yn cymryd cam ymlaen
Mae cynllun i symud ysgol uwchradd i safle newydd ym Môn wedi cymryd cam mawr ymlaen.
Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn wedi cytuno i fwrw ymlaen â chynigion i symud disgyblion Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad newydd gwerth £66m.
Roedd yr ysgol yn un o'r cyntaf yng Nghymru i gael ei tharo gan yr argyfwng concrit RAAC yn 2023, ac mae angen cynnal a chadw helaeth arni ar hyn o bryd.
Yn ystod cyfarfod o Bwyllgor Gwaith y cyngor ddydd Mawrth, cytunodd y cynghorwyr i gyhoeddi hysbysiad statudol yn amlinellu'r bwriad i adleoli'r ysgol.
Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y cam arfaethedig ym mis Mehefin a mis Gorffennaf, gyda'r canlyniadau'n dangos bod 79% o'r cyfranogwyr yn cytuno â'r symud lleoliad.
Mae'r cyngor yn bwriadu symud yr ysgol i dir ger Canolfan Hamdden Caergybi - yn dibynnu os oes tir ar gael.
RAAC
Roedd Ysgol Uwchradd Caergybi yn un o ddwy ysgol ar Ynys Môn gafodd eu cau pan ddaeth swyddogion o hyd i goncrit RAAC ar y safle yn 2023.
Mae'r ysgol wedi'i lleoli rhwng Ffordd Ynys Lawd a Ffordd Porth y Felin yn y dref.
Disgrifiodd adroddiad sut y cafodd rhai o adeiladau'r ysgol bresennol eu hadeiladu yn ystod y 1960au a dechrau'r 1970au, gyda nifer o ychwanegiadau diweddarach.
Roedd rhai ystafelloedd dosbarth yn dyddio o'r 1940au.
Byddai'r ysgol newydd yn darparu 900 o leoedd (750 o ddisgyblion ym mlynyddoedd 7-11 a 150 ym mlynyddoedd 12-13) a byddai'r nifer o ddisgyblion newydd fesul blwyddyn academaidd yn 150 (yn seiliedig ar flwyddyn 7-11 yn unig).
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, aelod y Cabinet dros addysg a’r iaith Gymraeg: “Dyma un o’r darnau gwaith mwyaf cadarnhaol rydw i wedi bod yn rhan ohono fel deiliad portffolio, ac o bosibl yn fy ngyrfa fel cynghorydd.
“Bydd yn gwneud gwahaniaeth, os byddwn yn llwyddiannus, a bydd yn beth cadarnhaol i Gaergybi.”