Newyddion S4C

Capiau cyntaf i ddau chwaraewr merched Cymru wrth iddynt herio Canada

27/08/2022
Jasmine Joyce

Mae Ioan Cunningham wedi enwi dau chwaraewr heb gapiau yn ei garfan wrth i ferched Cymru herio Canada yn Halifax.

Bydd y canolwr Carys Williams-Morris a'r asgellwr Lowri Norkett yn chwarae dros Gymru am y tro cyntaf. Mae cyfle i'r mewnwr Eloise Hayward ennill ei chap cyntaf oddi ar y fainc hefyd.

Hannah Jones bydd y capten yn lle'r arferol Siwan Lillicrap, sydd ar y fainc. Mae hefyd lle yn y 15 cyntaf i Jasmine Joyce ar yr asgell, y tro cyntaf ers iddi gael triniaeth ar ei hysgwydd ym mis Mai.

Mae Cymru wedi bod yn ymarfer allan yn Halifax am dros wythnos, a bydd y garfan yn defnyddio'r gêm fel rhan o'u paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd yn Seland Newydd ym mis Hydref.

Dywedodd Ioan Cunningham: "Mae'r wythnos hon wedi bod yn fuddiol iawn ac wedi helpu ni codi'r safon wrth i ni baratoi at Gwpan y Byd. Mae'r chwaraewyr wedi gweithio'n galed ac i ni'n edrych ymlaen at herio'n hunain yn erbyn tîm rhif 4 yn y byd.

"Mae'r garfan dwi wedi dewis am y gêm yn gwobrwyo'r chwaraewyr sydd wedi creu argraff wrth ymarfer, ond mae e hefyd yn rhoi cyfle i ni fel tîm hyfforddi gweld chwaraewyr ni heb weld o'r blaen mewn crys Cymru."

​​​​​​

Y tîm llawn 

Kayleigh Powell; Jasmine Joyce, Carys Williams-Morris, Hannah Jones, Lowri Norkett; Elinor Snowsill, Ffion Lewis; Cara Hope, Kat Evans, Donna Rose; Abbie Fleming, Natalia John; Beth Lewis, Manon Johnes, Sioned Harries.

Eilyddion: Kelsey Jones, Caryl Thomas, Sisilia Tuipulotu, Georgia Evans, Siwan Lillicrap, Eloise Hayward, Lleucu George, Caitlin Lewis 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.