
Pride Cymru yn dychwelyd am y tro cyntaf ers y pandemig
Pride Cymru yn dychwelyd am y tro cyntaf ers y pandemig
Roedd miloedd o bobl ar strydoedd Caerdydd ddydd Sadwrn i ddathlu Pride Cymru gyda'r orymdaith gyntaf ers cyn y pandemig.
Fe fydd ŵyl yn cael ei chynnal yn y brifddinas dros y penwythnos am y tro cyntaf ers 2019.
Roedd disgwyl i dros bymtheg mil o bobl gymryd rhan yn yr orymdaith yn y brifddinas dros y penwythnos.
Dau oedd yn edrych ymlaen at fynychu’r digwyddiad am y tro cyntaf oedd Jack Davies a Llion Richards.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Jack: "Dwi wir yn edrych ymlaen. Ers y pandemig fi'n meddwl ma'n amser i ni gael bach o balchder yn ddinas.
“Prif neges yw cael bach o hwyl. Ni gyd yn cael llawer o gasineb drwy gydol ein bywydau ni. So ma' Pride yn hollol amdano dathlu cael hwyl #let loose# tamed bach.”
Mae Llion hefyd yn edrych ymlaen: "Dwi erioed wedi cael y cyfle o'r blaen hefo'r pandemig a ballu. Dwi yn edrych ymlaen i weld y pared, dwi di clywed mae o'n lot fawr o hwyl.
“Ma'n hollol bwysig i bobl LHDTQ+ cael lle i mynegi i hunain. Ma' Pride yn hybu urddas, cryfder, a cydraddoldeb yma yng Nghymru.
“A dwi'n credu ma' Pride yn rywbeth sy'n grymuso pobl i ddod at i gilydd."
Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal ar dri llwyfan yn ystod y deuddydd o berfformiadau gan gymysgedd o enwau mawr a thalent leol.
Mae'r trefnwyr wedi cadarnhau y bydd Mel C o'r Spice Girls, Boney M a chyflwynydd Radio 1 Adele Roberts yn rhan o'r arlwy.
Bydd Welsh of the West End a Bronwen Lewis hefyd yn perfformio.
Bydd nifer o ffyrdd yn y brifddinas ar gau i gerbydau dros y penwythnos o ganlyniad i'r digwyddiad.
Dyma rai o ddelweddau'r dydd:




