Oes o garchar i ddyn 31 oed am ladd merch 18 oed yn Sir Benfro
Mae dyn 31 oed wedi ei ddedfrydu am oes dan glo am lofruddio merch 18 oed yn Sir Benfro.
Fe fydd Lewis Haines yn treulio o leiaf 23 mlynedd a phedwar mis yn y carchar am ladd Lily Sullivan ar noson allan gyda ffrindiau yn nhref Penfro.
Cafodd Lily Sullivan ei llofruddio ym Mhenfro yn ystod oriau mân y bore ddydd Gwener, 17 Rhagfyr 2021.
Fe nododd archwiliadau fforensig fod Lily wedi dioddef ymosodiad treisgar a bod achos ei marwolaeth yn gyson â chrogi.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Richard Yelland: “Mae’r ddedfryd oes a roddwyd i Lewis Haines heddiw’n sicrhau na fydd yn medru niweidio eraill yn y gymuned.
"Bydd Heddlu Dyfed-Powys a’n partneriaid yn parhau i weithio’n ddiflino er mwyn dwyn y rhai sy’n cyflawni trais yn erbyn menywod a merched ym mhob ffurf i gyfiawnder.
“Nid yw’r ddedfryd hon yn unrhyw gysur i deulu a ffrindiau Lily, ond rwy’n gobeithio y bydd hyn yn gam ymlaen yn y broses araf o ailadeiladu eu bywydau. Heddiw, mae fy meddyliau gyda nhw’n llwyr.”