Newyddion S4C

Elton John a Britney Spears yn rhyddhau sengl ar y cyd

26/08/2022
Britney Spears ac Elton John - Llun EJ_Twitter

Mae Elton John a Britney Spears wedi rhyddhau sengl newydd ar y cyd ddydd Gwener.

Mae "Hold Me Closer" yn gyfuniad o nifer o glasuron Elton, gan gynnwys "Tiny Dancer".

Mae'r gân yn nodi'r tro cyntaf i Britney Spears ryddhau sengl newydd ers chwe blynedd.

Dywedodd ei bod hi'n "eithaf cŵl" i gael canu gydag un o'r "dynion mwyaf clasurol erioed".

Daw'r sengl rai wythnosau ar ôl i Britney briodi am y trydydd tro, ar ôl i drefniant oedd yn rhoi rheolaeth dros ei bywyd i'w thad ddod i ben.

Y ddeuawd yw'r diweddaraf mewn cyfres o brosiectau ar y cyd rhwng Elton John a rhai o enwau mwyaf y byd cerddoriaeth.

Hyd yma, mae ganddo ddeuawdau wedi eu rhyddhau gyda Ed Sheeran, Lady Gaga, Nicki Minaj, Stevie Wonder, Dua Lipa a Years & Years.

Llun: Elton John/Twitter

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.