Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio Olivia Pratt-Korbel
Mae dyn 36 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Olivia Pratt-Korbel.
Cafodd y dyn o ardal Huyton, Lerpwl, hefyd ei arestio ar ddau achos o geisio llofruddio.
Cafodd y Olivia, oedd yn naw oed, ei saethu'n farw yn ardal Dovecot yn Lerpwl nos Lun.
Mae ei theulu wedi rhoi teyrnged i ferch "unigryw a siaradus".
Dywedodd y teulu: "Roedd Liv yn ferch fach, unigryw, siaradus a swnllyd oedd yn caru bywyd.
"Roedd pawb yn hoff o Liv ac roedd hi'n gwneud ffrindiau gyda phawb.
"Roedd hi'n cael ei gweld yn aml yn mynd lan a lawr y stryd ar ei beic newydd gafodd hi am ei phenblwydd.
"Er oedd ei bywyd hi'n fyr, doedd ei phersonoliaeth hi'n sicr ddim ac roedd hi wedi byw bywyd i'r eithaf, roedd hi'n synnu pobl gyda'i ffraethineb a'i charedigrwydd.
"Os yw unrhyw un yn gwybod unrhyw beth, nawr yw'r amser i siarad. Dyw e ddim am fod yn 'snitch', ma fe am ddarganfod pwy gymerodd ein babi oddi wrthym."