Rhybudd bod carthion wedi llifo i draethau ym Mhenfro a Môn

Mae iechyd cyhoeddus wedi rhybuddio bod carthion wedi llifo i draethau ym Mhenfro a Môn.
Mae'r rhybuddion mewn grym ar bedwar traeth yng Nghymru, gyda pobl yn cael eu cynghori i beidio nofio ar ôl i garthion gael eu gollwng i’r dŵr.
Mae rhybudd wedi cael ei gyhoeddi ym Mae Barafundle yn Sir Benfro ar ôl i garthion cael eu gollwng o gorffos gyfagos rhwng 23 a 25 Awst, ac ym Mhont-yr-ŵr a thraeth Llanusyllt, sydd hefyd yn Sir Benfro.
Mae’r pedwerydd rhybudd mewn grym ar draeth Benllech yn Sir Fôn.
Fe wnaeth Cyngor Sir Benfro gyhoeddi rhybudd iechyd cyhoeddus, gan ddweud: “Rydym yn cynghori’r cyhoedd o ddigwyddiad a amheuir i fod yn llygredd carthion ym Mhont-yr-ŵr. Gallai’r gollyngiad effeithio ar ansawdd dŵr ymdrochi o bosib.”
Fe wnaeth yr AS Ceidwadol dros Orllewin Caerfyddin a De Sir Benfro, Samuel Kurtz, galw ar Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i weithredu ar y rhybudd ym Mhont-yr-ŵr.
Dywedodd Mr Kurtz: “Dyma sefyllfa ofidus iawn - allwn ni ddim cael llygredd carthion yn ein dyfroedd.”
Mewn ymateb i’r digwyddiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae cadw afonydd a dyfroedd ymdrochi’n lân a diogel i bobl a bywyd gwyllt yn rhan bwysig o’r gwaith rydym yn gwneud.
“Rydym yn ymchwilio i’r llygredd mewn pwynt gollwng uned trin carthion preifat ym Mhont-yr-ŵr. Mae’r broblem yn cael ei datrys ac mae Cyngor Sir Benfro wedi codi arwyddion ym Mhont-yr-ŵr i rybuddio’r cyhoedd gallai ansawdd y dŵr gael ei effeithio.”
Mae Gwasanaeth Afonydd a Moroedd Diogel yn monitro ansawdd dŵr mewn mwy na 400 o leoliadau arfordirol ac afonydd ledled Prydain.