
Heddlu yn cael eu galw i siambr Cyngor Gwynedd
Fe gafodd yr heddlu eu galw i siambr Cyngor Gwynedd ddydd Iau, ar ôl i gyfarfod arbennig o'r cyngor gael ei atal oherwydd ymddygiad unigolion yn yr oriel gyhoeddus.
Roedd cyfarfod brys o'r cyngor wedi ei alw yn dilyn cynnig gan garfan o gynghorwyr o dan arweiniad y Cynghorydd Annibynnol Louise Hughes, oedd yn herio polisi newydd Llywodraeth Cymru ar addysg rhyw mewn ysgolion.
Roedd cyfle yn ystod y cyfarfod i gynghorwyr leisio eu barn a'u safbwyntiau ar y mesur, ac fe amddiffynnodd yr aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb dros addysg, Y Cyng. Beca Brown o Blaid Cymru, safbwynt y cabinet ar y pwnc, a'r ffaith y bydd cwricwlwm newydd yn cynnwys elfennau am addysg ryw yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion yn y sir ac ar draws y wlad.
Fe ddechreuodd pethau boethi yn y siambr yn ystod anerchiad gan y Cyng. Dewi Jones o Blaid Cymru, oedd yn siarad o blaid y polisi addysg rhyw.
Yn ystod araith Mr Jones, fe ddechreuodd aelodau o'r cyhoedd aflonyddu yn yr oriel, gan ddangos eu gwrthwynebiad i'r polisi, fe arweiniodd hynny at yr Is-gadeirydd, Y Cyng. Medwyn Hughes yn atal y cyfarfod am o leiaf 15 munud, er mwyn sicrhau fod trefn yn cael ei adfer yn y siambr.
Yn ystod y cyfnod yma, fe gafodd swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r siambr, ac fe gafodd unigolion eu gorfodi i adael yr adeilad.

Wrth i'r cyfarfod ail-ddechrau, fe rubuddiodd Prif Weithredwr y Cyngor, Dafydd Gibbard, na fydd y Cyngor yn derbyn "ymddygiad o'r fath."
'Poeni am ddiogelwch'
Dywedodd un cynghorydd a oedd yn bresennol yn y cyfarfod wrth Newyddion S4C, fod amryw o'i gyd-gynghorwyr wedi "dychryn yn dilyn ymddygiad unigolion" oedd yn eistedd yn yr oriel gyhoeddus, a'u bod yn "poeni am eu diogelwch eu hunain."
Mae Newyddion S4C ar ddeall fod cynghorwyr wedi cael eu gwahodd i aros mewn man diogel yn yr adeilad nes bod swyddogion wedi sicrhau fod y siambr wedi ei gwagio ar ddiwedd y cyfarfod.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Yn ystod cyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn yn Siambr Dafydd Orwig heddiw, tarfwyd ar y drafodaeth gan unigolion yn y galeri gyhoeddus. Wedi sawl rhybudd gan gadeirydd y cyfarfod, cafwyd oediad o 15 munud er mwyn tawelu’r siambr.
“Rydym yn ddiolchgar i’r Heddlu am eu cydweithrediad parod ac yn tanlinellu fod gan pob Aelod Etholedig yr hawl i siarad yn agored yn ystod cyfarfodydd heb ofn.”