Sut bydd ‘streic fwyaf yr haf’ yn effeithio ar eich post?
Fe fydd mwy na 100,000 o weithwyr post yn streicio ddydd Gwener mewn anghydfod dros gyflog.
Mae’r weithred ddiwydiannol yn cael ei disgrifio fel "streic fwyaf yr haf", ond beth mae’n ei olygu i chi a’ch post?
Pam bod streic?
Dywedodd Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) fod ei haelodau’n gweithredu’n ddiwydiannol am “godiad cyflog urddasol, priodol” ar ôl iddyn nhw bleidleisio o blaid streicio o 97.6% mewn pleidlais.
Dywedodd yr undeb fod codiad cyflog o 2% i weithwyr, a gafodd eu nodi fel gweithwyr allweddol trwy gydol y pandemig.
“Mewn hinsawdd economaidd lle mae’n edrych yn debyg y bydd chwyddiant yn codi i 18 y cant erbyn Ionawr 2023, bydd gostyngiad dramatig yn safonau byw gweithwyr,” meddai llefarydd ar ran yr undeb.
Pa bryd bydd y streicio?
Bydd aelodau o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu – sy’n cynrychioli gweithwyr Grŵp y Post Brenhinol yn dechrau cyfres o streiciau cenedlaethol ddydd Gwener.
Bydd streicio pellach ddydd Mercher 31 Awst, dydd Iau 8 Medi a dydd Gwener 9 Medi.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol CWU, Dave Ward: “Ddydd Gwener, byddwn yn gweld nifer fawr o weithwyr yn streicio mewn pentrefi, trefi a dinasoedd ledled y wlad.”
A fydd y post yn cyrraedd eich cartref?
Ar ddiwrnodau pan fydd streic yn digwydd bydd Y Post Brenhinol yn dosbarthu cymaint o barseli Dosbarthu Arbennig a pharseli wedi eu tacio â phosibl.
Bydd blaenoriaeth i ddosbarthu citiau profion Covid-19 a phresgripsiynau meddygol.
Mae’r Post Brenhinol yn cynghori cwsmeriaid i bostio eitemau cyn gynted â phosibl cyn dyddiadau'r streic.
Bydd blychau postio yn cael eu casglu yn llai aml ar ddiwrnodau streic hefyd.
Dywedodd Ricky McAulay, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Post Brenhinol: "Rydym yn ymddiheuro i'n cwsmeriaid am yr aflonyddwch y bydd gweithredu diwydiannol CWU yn ei achosi.
“Mae cynlluniau wrth gefn yn eu lle, a byddwn yn gweithio’n galed i leihau unrhyw aflonyddwch a chael ein gwasanaethau yn ôl i normal cyn gynted ag y gallwn er mwyn cadw pobl, busnesau a’r wlad yn gysylltiedig.”
Beth yw ymateb Y Post Brenhinol?
Yn ôl Y Post Brenhinol, nid yw undeb y CWU wedi cytuno i "unrhyw drafodaeth ystyrlon" ar y newidiadau maen nhw am eu cyflwyno.
Ychwanegodd Ricky McAulay, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Post Brenhinol: “Ar ôl mwy na thri mis o sgyrsiau, mae’r CWU wedi methu â chynnal unrhyw drafodaeth ystyrlon ar y newidiadau sydd angen i ni eu moderneiddio, na meddwl am syniadau amgen.
“Gwrthododd y CWU ein cynnig gwerth hyd at 5.5% ar gyfer cydweithwyr gradd CWU, y cynnydd mwyaf yr ydym wedi’i gynnig ers blynyddoedd lawer.
"Mewn busnes sy’n colli £1 miliwn y dydd ar hyn o bryd, dim ond drwy gytuno ar y newidiadau a fydd yn talu amdano y gallwn ariannu’r cynnig hwn.”