Newyddion S4C

Rhagor o rannau o Gymru yn symud i statws o sychder

Statws Sychder CNC

Mae rhagor o rannau o Gymru wedi'u symud i statws o sychder swyddogol ddydd Iau, wrth i'r amgylchedd barhau i ddioddef effeithiau'r cyfnod o dywydd sych. 

Mae rhannau o dde ddwyrain a chanolbarth Cymru wedi'u symud i'r statws gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Yn ôl y corff, mae llif afon a lefelau dŵr daear hynod o isel wedi'u cofnodi yn yr ardaloedd o gwmpas yr afonydd Hafren, Gwy ac Wysg yn ogystal ag yn ardal Bro Morgannwg a'r Cymoedd. 

Daw hyn wrth i Gymru weld cyfnod hir o dywydd sych dros yr haf, gyda dim ond 30.8% o'r glaw arferol yn cwympo ym mis Awst. 

Wythnos diwethaf cafodd y de orllewin ei symud i statws o sychder, gyda gwaharddiad ar bibelli dŵr yn cael ei gyhoeddi ar gyfer Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin. 

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'r sefyllfa yng ngogledd Cymru hefyd yn cael ei fonitro yn agos. 

Dywedodd Rheolwr Dŵr Cynaliadwy ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, Natalie Hall, fod y cyfnod o dywydd sych wedi rhoi'r amgylchedd o dan bwysau "eithriadol".

"Er inni brofi rhywfaint o lawiad gwirioneddol angenrheidiol ar draws rhannau o Gymru dros y dyddiau diwethaf, nid yw'r glaw hwnnw wedi bod yn ddigon o bell ffordd i leddfu effeithiau wythnosau lawer o dywydd sych a phoeth," meddai. 

"Bydd angen cyfnod hir a sylweddol o law arnom i weld y lefelau yn ein hafonydd a'n cronfeydd dŵr yn codi eto i'r lefelau sydd eu hangen arnom."

Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.