Cais i ychwanegu llety 'glampio' at fythynnod gwyliau I'm a Celebrity yng Nghonwy

Mae cais wedi'i wneud i ychwanegu llety 'glampio' i'r maes bythynnod gwyliau a gafodd ei ddefnyddio gan Ant a Dec wrth iddynt gyflwyno I'm a Celebrity...Get Me Out of Here.
Cafodd y maes ym Mhenmaenmawr ei ddefnyddio gan y cyflwynwyr teledu wrth ffilmio'r cyfresi diweddaraf o'r gyfres boblogaidd yng Nghastell Gwrych yn Abergele.
Bellach mae perchennog Graiglwyd Spring, James McAllister, wedi gwneud cais i Gyngor Sir Conwy i newid defnydd tir y maes.
Ar hyn o bryd, caiff y tir ei defnyddio ar gyfer pysgodfa frithyll a bythynnod gwyliau hunanarlwyo, ond mae'r perchnogion am ehangu defnydd y maes i gynnwys podiau glampio a thybiau twym.
Er gwaethaf y buddsoddiad o dros £50,000 mewn datblygiadau, mae'n annhebygol y bydd Ant a Dec yn dychwelyd i'r maes, wedi i'r cyflwynwyr gadarnhau y bydd I'm a Celebrity yn dychwelyd i Awstralia ar gyfer y gyfres nesaf ym mis Tachwedd.
Darllenwch fwy yma.