Pennaeth heddlu Uvalde wedi'i ddiswyddo am ei ymateb i ymosodiad ar ysgol

Mae pennaeth heddlu Uvalde yn Texas wedi'i ddiswyddo am ei ymateb i ymosodiad ar ysgol yn y ddinas.
Bu farw 19 o blant a dau athro pan ymosododd dyn 18 oed ar Ysgol Gynradd Robb gyda gwn ar 24 Mai.
Mewn pleidlais ddydd Mercher, penderfynodd bwrdd addysg Uvalde yn unfrydol i ddiswyddo Pete Arrendondo o'i rôl.
Fe wnaeth heddlu'r ddinas derbyn beirniadaeth chwyrn am beidio ag ymateb yn ddigon cyflym i'r ymosodiad, wrth i swyddogion aros dros awr ar ôl i'r saethu ddechrau cyn mynd mewn i'r ysgol.
Darllenwch fwy yma.