Farage yn cwyno ar ôl i Blaid Cymru ddewis aelod o gynulleidfa dadl deledu Caerffili yn ymgeisydd

Alison Vyas

Mae arweinydd Reform UK, Nigel Farage wedi cwyno i'r BBC ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod aelod blaenllaw o'r gynulleidfa yn ystod dadl isetholiad bellach wedi ei dewis yn ymgeisydd lleol gan Blaid Cymru.

Cafodd isetholiad i Senedd Cymru ei gynnal yng Nghaerffili ym mis Hydref wedi marwolaeth sydyn yr aelod Llafur Hefin David.

Fe wnaeth BBC Cymru gynnal dadl deledu gyda chwech o'r ymgeiswyr yn yr is etholiad cyn i bobl bleidleisio.

Yn ystod y ddadl fe wnaeth aelod o'r gynulleidfa, Alison Vyas, feirniadu safbwynt Reform UK ar fewnfudo gan ddweud nad oedd hi "erioed wedi teimlo mor ddi-groeso yn fy nhref fy hun".

Dywedodd wrth ymgeisydd Reform UK, Llyr Powell: "Mr Powell, dwi'n beio ti am hynny".

Fe gafodd ei sylwadau llawer o sylw a'i drafod am weddill yr ymgyrch medd Reform UK.

'Hoelen olaf yr arch'

Plaid Cymru enillodd yr isetholiad gyda'i hymgeisydd, Lindsay Whittle yn cael 47% o'r bleidlais. 

Ers y canlyniad mae Plaid wedi cyhoeddi bod Alison Vyas yn ymgeisydd ar eu rhan i'r cyngor cymuned yng Nghaerffili.

Mewn neges ar Facebook mae'n cyhoeddi ei bod yn bwriadu sefyll ac yn disgrifio ei hun fel "dynes falch o'r Cymoedd" sydd yn dod a "chryfder, cynhesrwydd ac ysbryd cymuned" y cafodd ei magu ag o.

Dywedodd Mr Farage ei fod wedi cwyno i'r BBC gan ddweud bod "ymddiriedaeth yn y BBC wedi ei ysgwyd gan sgandalau'r blynyddoedd diwethaf".

"Nawr mae'r datgeliad yma yn hoelen olaf yn yr arch i nifer o bobl yng Nghymru," meddai.

"Sut allwn ni fod yn hyderus y bydd Reform yn cael gwrandawiad teg ac un wedi ei gydbwyso pan mae pethau fel hyn yn digwydd mewn dadleuon etholiad allweddol?"

Dywedodd llefarydd ar gyfer y BBC:" Fel gyda phob dadl etholiad y BBC fe gafodd y gynulleidfa ei dewis trwy broses wirio diduedd sydd wedi ei sefydlu ac mae wedi ei llunio i sicrhau cynrychiolaeth deg o safbwyntiau gwleidyddol. Cafodd yr holl bobl a wnaeth gyfrannu eu dewis yn unol â'n canllawiau golygyddol." 

Dywedodd Plaid Cymru bod Alison Vyas yn “lais cryf ac uchel ei pharch yn ei chymuned ac fe siaradodd yn ddewr o safbwynt ei phrofiad personol yn ystod y ddadl deledu".

“Yn dilyn y ddadl, derbyniodd Alison lith o sylwadau annifyr a chas ar-lein dim ond am iddi herio’r rhethreg rhaniadol y mae Reform UK yn ei harddel," meddai.
 
"Dim ond ar ôl y profiad hwnnw y dewisodd ymuno â Phlaid Cymru, ac rydym wrth ein bodd ei bod hi bellach yn sefyll i ni fel cynghorydd cymuned.
 
“Enillodd Plaid Cymru isetholiad Caerffili am fod pobl eisiau rhywbeth gwell - plaid sy’n sefyll dros Gymru, yn dod â chymunedau ynghyd, ac yn gwrthod chwarae gwleidyddiaeth adweithiol yr asgell dde. 
 
"Yn hytrach na myfyrio ar pam mae eu neges yn dieithrio cymaint o bobl, mae Reform UK wedi dewis ymosod ar aelod o’r cyhoedd ac ymosod ar y BBC eto. Collwyr gwael, efallai.
 
“Mae polau piniwn ledled Cymru yn dangos bod etholiad y Senedd bellach yn ras dau geffyl. Os ydych chi eisiau atal gwleidyddiaeth o ddicter Reform o rhag gwreiddio yng Nghymru ac yn hytrach pleidleisio dros newid cadarnhaol ac arweinyddiaeth newydd, yna Plaid Cymru yw’r dewis clir i chi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.