Jade Jones 'eisiau darganfod ei hun' wrth ymuno â Celebrity SAS: Who Dares Wins
Mae'r athletwraig Taekwando Jade Jones wedi dweud ei bod hi am "ddarganfod ei hun" ar ôl iddi ymuno â'r gyfres newydd o Celebrity SAS: Who Dares Wins.
Mae'r gyfres yn darparu criw o bobl â hyfforddiant fyddai'n cael ei roi i ddarpar aelodau o Luoedd Arbennig y DU.
Mae Jones wedi ennill dwy fedal aur yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012 ac yn Rio de Janeiro yn 2016.
Fe fydd hi'n gobeithio dilyn trywydd y para-athletwr o Gymru Aled Siôn Davies - un o dri a lwyddodd i orffen y gyfres ddiwethaf.
"Ar ôl colli yn y Gemau Olympaidd roeddwn eisiau darganfod fy hun, roeddwn eisiau gweld pa mor galed ydw i mewn gwirionedd oherwydd dwi'n meddwl fy mod i'n fabi bach pan mae'n dod i unrhyw beth ond am ymladd," meddai.
"Ond doedd gen i ddim syniad pa mor anodd yw e mewn gwirionedd, maen nhw'n ei wneud i edrych yn hawdd ar y teledu ond pan ydych chi ynddo, mae'n filain!"
Fe fydd gweddill y cystadleuwyr yn cynnwys cyn-ddawnsiwr Strictly Come Dancing AJ Pritchard, actores EastEnders Maisie Smith, enillydd Love Island Amber Gill, sêr The Only Way Is Essex Ferne McCann a Pete Wicks, a'r taflwr javelin Fatima Whitbread.