Gwefan newyddion Gymreig The National i ddod i ben ar ôl 18 mis

Mae gwefan newyddion The National yn mynd i ddod i ben 18 mis ers ei lansio.
Mewn datganiad a gafodd ei rannu â WalesOnline, mae'r cwmni tu ôl i'r wefan, Newsquest, yn rhoi'r bai ar gystadleuaeth gan sefydliadau newyddion eraill.
Newsquest yw un o'r cwmnïau mwyaf ym Mhrydain o ran darparu cynnwys newyddion.
Dywedodd Gavin Thompson, rheolwr olygydd The National fod "cystadleuaeth gan sefydliadau newyddion am ddim gan gynnwys BBC Wales ar-lein yn golygu nad oedd modd i The National Wales dyfu nifer y tanysgrifwyr i lefel gynaliadwy".
Mae WalesOnline ar ddeall y gallai'r wefan gau cyn gynted ag wythnos nesaf.
Darllenwch fwy yma.