Newyddion S4C

Ystyried dŵr glaw yn ‘olew Cymru’ yn sgil newid hinsawdd

Ystyried dŵr glaw yn ‘olew Cymru’ yn sgil newid hinsawdd

Fe allai dŵr glaw gael ei ystyried yn "olew Cymru" yn y dyfodol os bydd cynlluniau i gludo dŵr i rannau o Loegr sy'n dioddef o sychder yn mynd yn ei flaen.

Dywedodd yr Athro Roger Falconer o Brifysgol Caerdydd y dylai Lloegr "dalu am y dŵr", gyda'r refeniw yn cael ei fuddsoddi yn ôl i gymunedau lleol yng Nghymru.

Mae manteisio ar gronfa ddŵr canolbarth Cymru yn un opsiwn sy’n cael ei ystyried gan Thames Water wrth gynllunio ar gyfer mwy o dywydd poeth yn sgil y newid yn yr hinsawdd.

Ond mae un o weinidogion Llywodraeth y DU yn dweud fod y syniad y dylai Cymru fanteisio ar ei dŵr yn broblematig.

'Problem i ni gyd'

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru David TC Davies fod "problem mewn un rhan o'r Deyrnas Unedig yn broblem i ni gyd".

Yn ôl yr Athro Falconer mae’r syniad o drosglwyddo dŵr o Gymru wedi ei thrafod ers dechrau'r 1980au.

Mae cynlluniau yn nodi’r posibilrwydd o godi Argae Craig Goch yng Nghwm Elan, gan drosglwyddo'r dŵr ychwanegol a ddaliwyd yno trwy afonydd Gwy neu Hafren a thrwy gamlesi i'r Tafwys uchaf.

Gyda chwmnïau dŵr ar draws de ddwyrain Lloegr yn rhybuddio am “bwysau difrifol” ar adnoddau o ganlyniad i dwf poblogaeth a newid hinsawdd, mae’r Athro Falconer yn credu y bydd “diddordeb cynyddol” mewn ail-ymchwilio i hyn a chynlluniau eraill.

Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd ei fod yn "gyfle da mewn sawl ffordd".

“Fe fydden ni’n cyflenwi’n uniongyrchol o dan amodau sychder i dde ddwyrain Lloegr a byddwn i’n gweld hwn fel olew Cymru ar gyfer y dyfodol o ran refeniw," meddai.

Image
ELWYN VAUGHAN
Mae Arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Powys, Elwyn Vaughan, yn dweud fod y gymuned yn hapus i rannu dŵr am "bris teg".

'Ymgynghori'

Mae Thames Water wedi cael ei annog gan undeb GMB Llundain i fwrw ymlaen â chynlluniau i gael mynediad i ddŵr o gronfa ddŵr Llyn Efyrnwy ym Mhowys yn ystod cyfnodau o sychder.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod wedi bod yn "ymgynghori a datblygu cynllun gwytnwch dŵr rhanbarthol sy'n cymryd i ystyriaeth ymarferoldeb gwahanol gynlluniau a sut y byddan nhw'n helpu i ddarparu cyflenwad dŵr fforddiadwy, gwydn a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

“Byddai'r cynllun yn golygu trosglwyddo dŵr o'r Hafren i'r Tafwys drwy bibell newydd neu ddefnyddio camlesi wedi'u hadfer yn y Cotswolds.

“Gallai cyflenwadau dŵr ychwanegol pan fo angen hefyd ddod o Lyn Efyrnwy, a reolir gan Severn Trent ar ran United Utilities.”

Dywedodd llefarydd ar ran United Utilities fod trosglwyddiadau dŵr i gynorthwyo rhanbarthau eraill yn cael eu hystyried "i fynd i'r afael â'r heriau a achosir gan newid hinsawdd, twf poblogaeth a diogelu'r amgylchedd".

“Ni fyddai unrhyw drosglwyddiadau’n lleihau gwytnwch cyflenwadau i gwsmeriaid presennol,” meddai, gan ychwanegu nad oedd "unrhyw gynlluniau i fynd ag unrhyw ddŵr ychwanegol o Lyn Efyrnwy y tu hwnt i’r hyn a ganiateir ar hyn o bryd.”

Wrth ymateb, dywedodd arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Powys, Elwyn Vaughan, fod angen i'r cwmni "gael trefn" cyn edrych i drosglwyddo dŵr o Gymru.

“Mae bron chwarter o ddŵr Llundain yn cael ei golli trwy ollyngiadau sy’n sefyllfa druenus,” meddai.

"Mae ganddyn nhw hefyd safle dihalwyno sydd wedi'i ddiffodd ac ers 2006 maen nhw wedi addo adeiladu cronfa ddŵr newydd ger Abingdon ac eto nid yw hynny wedi'i wneud."

Image
ELFED WILLIAMS.jpg
Mae YesCymru yn galw am ddatganoli grymoedd dros ddŵr ac adnoddau naturiol i Gymru.

Lansio deiseb

Mae mudiad annibyniaeth YesCymru hefyd wedi lansio deiseb yn galw am ddadl lawn ar y mater yn y Senedd.

Dywedodd cadeirydd y mudiad Elfed Williams: "Rydym yn dweud y dylai'r Senedd yng Nghaerdydd reoli ein hadnoddau naturiol er lles Cymru.

“Rydyn ni’n hapus i rannu ein dŵr gyda’n cymydog ond fe ddylai fod o fudd i ni – ni ddylai fod Llundain yn gorchymyn,” meddai.

Dywedodd David TC Davies AS ei fod yn teimlo bod yr agwedd yn "un cul iawn" a fyddai'n "ysgogi rhaniadau mewn mannau eraill lle byddai pobl yn dweud pam yr ydym yn anfon biliwn o bunnoedd i Gymru ar gyfer bargeinion twf er enghraifft, neu pam y bydd Cymru'n elwa o drydan sy'n mynd i'r grid o ganlyniad i Hinkley Point C".

"Rwy'n siŵr ei fod yn swnio'n wych yn ystafell gyfarfod cangen o Blaid Cymru yn rhywle," meddai.

"Ond pan fyddwch chi'n dechrau meddwl am oblygiadau hyn nid yw'n gweithio o gwbl oherwydd byddai pawb arall eisiau codi tâl [ar Gymru am bethau eraill]...ac yn y pen draw rydyn ni'n un Deyrnas Unedig."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.