Newyddion S4C

Mam ifanc yn rhoi genedigaeth mewn gorsaf drên yng Nghaerdydd

ITV Cymru 24/08/2022
y plentyn gyda'i thad

Cafodd teithwyr ar drenau yng Nghaerdydd dipyn o syndod pan roddodd fam newydd enedigaeth i'w babi mewn gorsaf drên yng Nghaerdydd.

Roedd Darcy Rogers, 21 o Gasnewydd, yn mwynhau diwrnod gyda’i theulu yn y brifddinas ddeuddydd cyn ei dyddiad disgwyl, pan ddechreuodd hi gael cyfangiadau ar y ffordd yn ôl i orsaf drên Caerdydd Canolog.

Roedd Darcy yng nghwmni ei parthner Michael, ei merch Amelia, ei llysfab Kaiden a’i chwaer Lily.

Dywedodd Darcy ei bod hi’n gobeithio cyrraedd adref cyn rhoi genedigaeth i’r babi, cyn sylweddoli ei bod hi’n amlwg nad oedd hynny’n mynd i fod yn opsiwn. 

Cafodd Evie Eloise Sophie Keynon ei geni mewn ystafell aros yn yr orsaf gyda chymorth ei thad, Michael, oedd yn gorfod helpu gyda’r enedigaeth. 

“Tad Evie wnaeth esgor arni ar ben ei hun, gyda help aelod o staff yr orsaf, Sophie McConnell, wnaeth dawelu pethau mewn sefyllfa ryfedd,” meddai Darcy.

“Roedd sylw’r plant yn llwyr ar yr heddwas. Roedd e’n gadael iddyn nhw wisgo’i het a phethau, sy’n rhywbeth dwi’n ddiolchgar iawn amdano. Roedd holl aelodau’r staff yn anhygoel.”

Yn y cyfamser, fe wnaeth chwaer hynaf Darcy, Jessica ruthro i gwrdd â nhw yng Nghaerdydd i gasglu’r plant a rhoi bagiau ysbyty i’r pâr.

Roedd tri o swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi helpu’r pâr drwy siarad â’r gwasanaethau argyfwng dros y ffôn, gan drosglwyddo cyngor genedigaeth ymlaen i Michael a chysuro Darcy. 

Cafodd Evie ei geni lai na 30 munud ar ôl iddyn nhw gael eu symud i’r ystafell aros, a phum munud cyn i’r ambiwlans gyrraedd. 

Dywedodd Darcy: “Doeddwn i ddim yn poeni o gwbwl yn y foment ac roeddwn i fwy neu lai yn gwybod ‘mod i ddim yn mynd i gyrraedd yr ysbyty, ond fe wnes i roi cynnig go dda ar gyrraedd un.

“Roedd yr help gan yr heddlu a staff yr orsaf drên yn hollbwysig i fi a’m teulu, ac fe fyddwn yn ddiolchgar am byth.”

Mae Darcy ac Evie adref yn ddiogel erbyn hyn. 

Cafodd Evie ei geni gyda bys ychwanegol ar bob llaw, sef cyflwr o’r enw amlfyseddogrwydd sy’n effeithio ar un ymhob 500-1,000 o fabanod. 

Ni fydd hyn yn effeithio ar iechyd Evie, ond mae Darcy’n awyddus i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr, er mwyn i rieni’r dyfodol wybod mwy amdano. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.