Newyddion S4C

LHDTC+ yng nghefn gwlad: 'Roedd popeth yn sialens oherwydd roeddwn i’n hoyw'

LHDTC+ yng nghefn gwlad: 'Roedd popeth yn sialens oherwydd roeddwn i’n hoyw'

Mae bachgen hoyw ifanc yn ceisio codi ymwybyddiaeth o fwlio a diffyg dealltwriaeth o faterion LHDTC+ yng nghefn gwlad Cymru.

Mae Jona Milone o Sir Benfro yn 17 mlwydd oed.  Gwnaeth e ddod allan yn hoyw pan oedd e ym mlwyddyn wyth yn yr ysgol uwchradd.

“Roedd effaith ofnadwy ar fy iechyd meddwl i, dychmyga fod yn ofnus trwy’r amser pob dydd yn yr ysgol," meddai. 

"Roedd popeth yn sialens, jyst achos o’n i’n hoyw.”

O ganlyniad i ddod allan yn yr ysgol, gwnaeth Jona ddioddef bwlio corfforol, llafar ac weithiau homoffobig.

“Wrth fyw yng nghefn gwlad, mae popeth yn draddodiadol, ond daeth bod yn berson oedd yn wahanol i bob un arall gyda llawer o rwystrau fel bwlio.

"Ond daeth popeth o ddiffyg gwybodaeth, a diffyg dealltwriaeth o beth oedd bod yn hoyw.

“Hefyd, roedd gennyf lawer o hunan-gasineb, oherwydd roedd lot o’r bobl oedd yn fy mwlio i yn mynd trwy’r un problemau, jyst yn dawelach.”

Er hyn, mae yna rai unigolion yng nghefn gwlad sydd yn ceisio gwella’r profiad i bobl ifanc LHDTC+. 

Mae Steffan Evans yn athro hoyw sy’n gweithio mewn ysgol yn Llanfair-ym-muallt, ac yn credu bod e’n bwysig i fod yn agored i helpu plant a phobl ifanc LHDTC+ i deimlo’n gyfforddus.

“Mae’n eithaf anodd i fod yn athro hoyw agored yng Nghymru wledig," meddai. 

"Dwi’n ffeindio bod yn agored yn bwysig i ddangos pobl yn yr ysgol; plant a phobl ifanc, ond hefyd yr athrawon, staff a rhieni fod e’n iawn i fod yn hoyw ac yn agored." 

Image
S4C
Mae Steffan Evans yn credu bod e’n bwysig i fod yn agored am rywioldeb i helpu plant a phobl ifanc LHDTC+ i deimlo’n gyfforddus.

'Helpu eraill'

Mae Steffan yn defnyddio ei brofiad yn tyfu i fyny’n hoyw yng nghefn gwlad i gynorthwyo'r disgyblion sydd angen yr help.

“Fel rôl athro, mae’n bwysig ein bod ni’n fodel rôl i’r bobl ifanc ni’n ei dysgu. Ond hefyd, fel athro hoyw agored mae’n bwysig nawr ‘mod i’n defnyddio hynny i helpu eraill," meddai.

“Mae’n bwysig ‘mod i’n cymryd y fantais o fod yn athro sydd yn fodel rôl i bobl ifanc ac i ddangos iddyn nhw bod pethau yn ocê."

Cafodd Jona amser anodd yn yr ysgol o ganlyniad i’r bwlio, er bod ganddo grŵp o ffrindiau da oedd yn gefn iddo, nid oedd e’n teimlo bod ganddo gefnogaeth yr athrawon.

“O’n nhw’n strugglo gwybod beth oedden nhw’n delio gydag e, oherwydd bod y ffaith roeddwn i’n hoyw yn beth newydd iddyn nhw yng nghefn gwlad," meddai.

"Mae’n eithaf trist i gyfadde', bod fi byth yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol.”

Penderfynodd Jona fynd i therapi a CAHMS, sef gwasanaeth y GIG i helpu gyda’i iechyd meddwl.

Erbyn hyn, mae’n ceisio codi ymwybyddiaeth a helpu gyda phrosiectau newydd ledled Cymru i helpu plant a phobl ifanc LHDTC+ sy’n mynd trwy’r un peth.

“Mae’n rhaid sicrhau iechyd meddwl cryf i bob un yn ein cenhedlaeth ni,” meddai.

“Mae’n rhaid i bobl fod yn barod i newid, a dysgu pethau newydd, achos dyna’r broblem:  dyw lot o bobl ddim moyn newid.”

Dywedodd Davinia Green, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: “Mae’n ofnus clywed straeon am fwlio yn digwydd dim ond oherwydd cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd rhywun. 

“Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i frwydro yn erbyn trais gwrth-LHDTC+ a herio cam-drin, aflonyddu a theimlad gwrth-LHDTC+ lle bynnag y byddwn yn ei weld. 

“Mae’n amlwg bod angen mwy o gymorth, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru a gweddill y DU, lle mae’n bosibl nad oes gan bobl LHDTC+ rwydweithiau a chymorth.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.