Llofruddiaeth Clydach: Teyrnged i fenyw fu farw yn Abertawe
24/08/2022
Mae teulu menyw fu farw mewn cyfeiriad yn Abertawe fore Mawrth wedi rhoi teyrnged iddi.
Mae swyddogion wedi arestio dyn 55 oed mewn cysylltiad â llofruddiaeth Wendy Buckney, 71, ac maen nhw'n parhau i'w holi.
Mewn datganiad, dywedodd ei theulu: "Fel teulu rydym wedi'n llorio fod ein chwaer, modryb a ffrind cariadus wedi ei chymryd mewn ffordd mor drasig.
"Mae ein teulu wedi'i rwygo ac fe welwn ni ei heisiau hi am byth.
"Parchwch ein preifatrwydd os gwelwch yn dda a'n dymuniad i alaru'n breifat ar yr adeg ofnadwy hon."
Cafodd corff Wendy Buckney ei ddarganfod mewn cyfeiriad ar Ffordd Tanycoed, ychydig wedi 8:20 fore Mercher.
Mae'r ymchwiliad yn parhau.