Jonny Clayton allan o Bencampwriaeth Dartiau’r Byd
Mae Jonny Clayton allan o Bencampwriaeth Dartiau’r Byd ar ôl colli yn erbyn Ryan Searle o Loegr yn rownd yr wyth olaf.
Fe wnaeth y gŵr o Bontyberem golli o 2 set i 5 yn Alexandra Palace yn Llundain ar Ddydd Calan.
Jonny Clayton oedd yr unig Gymro ar ôl yn y bencampwriaeth.
Roedd Clayton wedi colli’r set gyntaf yn erbyn Searle, ac nid oedd wedi colli set drwy gydol y gystadleuaeth
Fe lwyddodd Clayton i gipio’r bedwaredd set, ond ar ôl methu llawer o ddartiau ar ddwbl, fe aeth Searle ymlaen i ennill y ddwy set nesaf.
Fe wnaeth y Cymro daro'n ôl i ddod â'r sgôr i 2-4, ond roedd y Sais yn hynod effeithiol wrth orffen cymalau, ac fe aeth ymlaen i selio'i le yn y rownd gyn-derfynol.