Newyddion S4C

Heddlu wedi derbyn enw'r dyn wnaeth saethu merch naw oed yn Lerpwl

The Sun 24/08/2022
Olivia Pratt-Korbel

Mae'r heddlu yn Lerpwl wedi derbyn enw'r dyn a wnaeth saethu merch naw oed yn y ddunas, yn ôl adroddiad gan The Sun. 

Bu farw Olivia Pratt-Korbel yn dilyn y digwyddiad yn ardal Dovecot o'r ddinas nos Lun. 

Yn ôl yr heddlu, roedd Joseph Nee, 35 oed, yn ceisio ffoi oddi wrth y saethwr, wedi rhuthro i mewn i gartref y ferch ifanc wedi i'w mam, Cheryl, agor y drws y tŷ ar ôl clywed sŵn ergyd gwn tu allan. 

Fe wnaeth y dyn arfog ddilyn y dyn arall i mewn i'r tŷ gan danio'r gwn sawl gwaith, gydag un bwled yn taro Olivia yn ei brest. Cafodd mam Olivia hefyd ei hanafu wedi iddi gael ei saethu yn ei garddwrn. 

Mae'r heddlu bellach "wedi derbyn" enw'r saethwr gan ddwy ffynhonnell wahanol wedi iddynt apelio i bobl Lerpwl am wybodaeth. 

Mae'r heddlu hefyd wedi arestio Mr Nee mewn cysylltiad â'r digwyddiad, wedi iddo dorri ei drwydded o'r carchar.

Image
S4C
Joseph Nee, 35 oed. (Llun Heddlu) 

Roedd Mr Nee yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ac fe fydd yn dychwelyd i'r carchar nes ymlaen, wrth i'r heddlu barhau i'w gwestiynu. 

Yn ôl adroddiad, roedd Mr Nee  yn ceisio ffoi o'r saethwr.

Darllenwch fwy yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.