Dyn wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddio menyw yn Abertawe
23/08/2022
Heddlu
Mae dyn 55 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddio menyw ym mhentref Clydach yn Abertawe.
Cafodd y fenyw 71 oed ei darganfod yn farw mewn cartref ar Heol Tanycoed tua 8:20 fore dydd Llun.
Dywedodd Ditectif Uwch-arolygydd Heddlu De Cymru Mark Lewis y bydd yr heddlu yn parhau yn yr ardal wrth i ymchwiliadau barhau.
"Yn amlwg, fe fydd y digwyddiad yma yn achosi braw ymhlith y gymuned agos yng Nghlydach," meddai.
"Rydw i eisiau cadarnhau i'r gymuned bod person wedi ei arestio yn fuan yn yr ymchwiliad, ac nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad."