Gwahardd cynghorydd sir o Blaid Cymru am sylwadau 'senoffobig' yn erbyn Saeson
Mae Cynghorydd Sir yng Nghaerffili wedi ei wahardd o'i blaid yn sgil honiadau ei fod wedi gwneud sylwadau "senoffobig" yn erbyn Saeson ar gyfryngau cymdeithasol.
Roedd y Cynghorydd Jon Scriven yn cynrychioli Plaid Cymru ar Gyngor Sir Caerffili.
Cafodd post ei gyhoeddi ar Facebook y Cynghorydd Scriven oedd yn cynnwys llun ohono yn Aberogwr yn dal gwn, gyda'r sylw: "Aberogwr heno i nofio'n sydyn a gwneud yn siŵr nad oedd unrhyw bobl Seisnig yn ceisio croesi'r sianel".
Mae bellach wedi dileu'r sylw a gafodd ei gyhoeddi ar 8 Awst ac mae Plaid Cymru wedi cadarnhau fod ymchwiliad wedi dechrau.
Mae cynrychiolwyr ar ran nifer o bleidiau wedi dweud fod y sylwadau yn "anaddas" ac roedd galwadau ar Blaid Cymru i wahardd y Cynghorydd Scriven o'r blaid.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw'r sylwadau yn rhai "cwbl annerbyniol" gyda'u harweinydd Andrew RT Davies yn dweud na all Adam Price "adael i sgandal arall rygnu ymlaen heb weithredu'n gadarn".
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud fod angen "adeiladu pontydd, nid dyfnhau rhaniadau" a hefyd yn galw am wahardd y Cynghorydd Scriven.
To those who posted offensive comments in response to this. Our society is facing huge challenges. We should be seeking to unite and address real concerns such as the cost of living crisis. Wrapping yourself in a flag and hating outsiders won’t help a single person in need. https://t.co/MiozRNirUg
— Hefin David MS/AS (@hef4caerphilly) August 22, 2022
Mae Hefin David, AS Caerffili sy'n cynrychioli Llafur, wedi dweud na fydd "lapio eich hun mewn baner a chasáu pobl o'r tu allan yn helpu unrhyw un mewn angen" yn sgil yr argyfwng costau byw.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Roedd y post gan y Cynghorydd Jon Scriven, sydd bellach wedi’i ddileu, yn amhriodol ac yn mynd yn groes i farn a gwerthoedd Plaid Cymru.
"Roedd yn iawn iddo ymddiheuro am unrhyw dramgwydd achoswyd. Mae dyletswydd ar holl gynrychiolwyr etholedig Plaid Cymru i gadw at y safonau uchaf mewn swydd gyhoeddus.
"Mae’r Cynghorydd Scriven wedi’i wahardd o’r blaid wrth i ymchwiliad fynd rhagddi.”
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â'r Cynghorydd Scriven am ymateb.