
Costau byw: Cyngor Llyfrau Cymru yn ‘rhagweld heriau’
Costau byw: Cyngor Llyfrau Cymru yn ‘rhagweld heriau’
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn “rhagweld heriau” yn ystod y misoedd nesaf, yn ôl Cadeirydd newydd y corff.
Dywedodd Linda Tomos wrth Newyddion S4C ei bod hi’n rhagweld y bydd pobl “yn dewis a dethol mwy lle mae'u harian prin nhw’n mynd”.
“Mae’n her fawr ac mae’r Cyngor Llyfrau yn sylweddoli mi fydd y gefnogaeth maen nhw’n ei rhoi yn hwyrach mwy allweddol na mae ‘di bod,” meddai.
“Ar y llaw arall, mae’r diwydiant llyfra’ a’r diwydiant cyhoeddi wedi goresgyn am ganrifoedd, sawl her fawr yn ymwneud ag arian ac ati.”
Cafodd Linda Tomos ei phenodi i’r rôl ym mis Gorffennaf gan olynu’r Athro M. Wynn Thomas ar ôl cyfnod o 20 mlynedd fel cadeirydd.
Ychwanegodd ei bod hi’n bwysig “cadw diwydiant cyhoeddi byw, cyffrous yng Nghymru”.
“Felly bydd y Cyngor Llyfrau dwi’n meddwl yn sicrhau bod gymaint o gefnogaeth ma’ nhw’n gallu rhoi, ac wrth gwrs dyw ‘u harian nhw ddim yn enfawr, yn cael ei targedu er mwyn i’r diwydiant oresgyn,” meddai.
“Ac mae’r Cyngor Llyfrau wrth gwrs yn cydweithio â ysgolion a llyfrgelloedd ar gyfer dosbarthu llyfra’, yn ogystal â dosbarthu i siopa’ llyfra’.
“Dwi’n meddwl bod ni yn pryderu am siopa’ llyfra’ bach oherwydd yn amlwg mae heriau ariannol nhw, a’u costau nhw yn cynyddu. Costau ynni nhw, ac yn y blaen.”

‘Dal ati’
Mae Linda Tomos wedi gweithio fel llyfrgellydd am fwy na 40 mlynedd, gan gynnwys bod yn Llyfrgellydd Cenedlaethol rhwng 2015 a 2019, gan arwain y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Ond fe ddechreuodd y cyfan iddi yn 12 oed yn Wallington-on-Thames lle dechreuodd weithio mewn llyfrgell am y tro cyntaf, cyn mynd ymlaen i ddysgu’r Gymraeg fel oedolyn.
Mae’n gobeithio y bydd pobl yn parhau i wneud y mwyaf o bob cyfle i ddarllen llyfr, er gwaethaf pryderon am gostau byw sydd yn wynebu nifer ar draws y wlad.
“Dwi’n gobeithio oherwydd pwysigrwydd darllen, mi fydd rhieni a pobol sydd yn arfer prynu llyfra’ yn dal ati, oherwydd y pwysigrwydd, yn enwedig i bobl ifanc, bod nhw’n cael cyfleoedd i cael gafael ar llyfra’ newydd, e-lyfra’ ac yn y blaen,” meddai.
“Ac mi fydd llyfrgelloedd dwi’n siŵr yn chwara’ rhan allweddol, fel ma’ nhw wastad ‘di ‘neud trwy’r canrifoedd i roi cyfleoedd i bobl cael gafael mewn llyfra’ a llyfra’ ar-lein pryd ma’ amseroedd yn dynn ar bobol.”
Tu hwnt i ddal gafael yn y gynulleidfa graidd, mae Linda a’r Cyngor Llyfrau yn gobeithio torri tir newydd a denu darllenwyr brwd y dyfodol.
“Darllan ‘di popeth i fi ynde? Os fedrwn ni cyrraedd gynulleidfaoedd sydd ddim ar hyn o bryd yn darllan, mi fydda i’n teimlo mi fydd yr ymdrech werth o.”