
‘Angen rheoleiddio gwelyau haul yn well’ medd dyn ifanc sydd â chanser y croen
Mae dyn 23 oed sydd â chanser y croen yn dweud bod angen rheolau llymach a gwell rheoliadau o wasanaethau gwelyau haul yng Nghymru.
Cafodd Jak Howell o Abertawe ddiagnosis o melanoma cam 3, ym mis Mai'r llynedd ar ôl darganfod sbotyn oedd yn cosi ar ei gefn.
Cyn ei ddiagnosis, roedd Mr Howell yn defnyddio gwelyau haul bedair neu bum gwaith yr wythnos am tua 20 munud y tro, a hynny ers rhai blynyddoedd.
Mae Mr Howell eisiau i bobl ddeall “gwir beryglon” gwelyau haul, yn enwedig wrth eu defnyddio ormod.
“O'n i yn wirion. Dwi’n cyfaddef. O'n i yn gwybod beth mae gwlâu haul yn gallu ei wneud, ond o'n i'n meddwl, ‘Dwi’n ifanc ac yn gallu goroesi unrhyw beth’. ”
“Ond nawr dwi’n wynebu’r canlyniadau felly dwi i eisiau defnyddio fy nghamgymeriadau i helpu eraill ac i addysgu eraill am beryglon gwlâu haul.”

Mae gwelyau haul yn rhyddhau pelydrau UV sydd yn cynyddu'r risg o ganser malignant melanoma.
Dywedodd Prif Weithredwr Melanoma UK, Gillian Nuttall, fod melanoma a chanserau eraill y croen yn “gynyddol gyffredin” ym Mhrydain.
Mae mwy na 170,000 o ddiagnosis canser y croen yn cael eu cofnodi bob blwyddyn, ac mae bron i 2,500 yn marw o ganser y croen.
Mae Mr Howell yn credu bod angen newidiadau i’r modd y mae salonau gwelyau haul yn cael eu rheoleiddio.
“Mae yna lawer iawn sy' angen ei wneud. Mae’n bwysig cael trafodaeth am y perygl ond nid yw hynny yn ddigon.
“Bob dydd mae yna drafodaethau gan y llywodraeth am bethau fel yfed, cyffuriau, ysmygu ond dydych chi byth yn gweld unrhyw drafodaeth am wlâu haul sydd hefyd yn beryglus.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi cyflwyno deddfwriaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i fusnesau arddangos gwybodaeth ar welyau haul am y risg o ganser y croen a niwed i'r llygaid."
Yn dilyn llawdriniaeth aflwyddiannus, mae Mr Howell yn cael triniaeth cemotherapi.
“Mae’r driniaeth yn anodd, mae’n cymryd fy holl egni. Dwi’n gweld hi’n anodd cerdded fyny’r grisiau weithiau.
“Cyn dechrau’r driniaeth, o'n i yn poeni am bethau materol fel colli fy ngwallt. Ond erbyn i fywyd go iawn fy hitio mae’r pryderon yna yn diflannu a dwi ond yn gobeithio am y gorau.”
Mae Mr Howell bellach yn llysgennad canser ieuenctid y Deyrnas Unedig ac mae'n obeithiol am y dyfodol.