Llwyfan i chwaraewyr padel ym Mhencampwriaeth Tenis Cymru am y tro cyntaf
Llwyfan i chwaraewyr padel ym Mhencampwriaeth Tenis Cymru am y tro cyntaf
Dros y penwythnos fe fydd Pencampwriaeth Tenis Cymru yn cael ei chynnal ym Mhenarth.
Yn ogystal â choroni enillydd y gamp draddodiadol, fe fydd chwaraewr padel gorau Cymru hefyd yn cael teitl am y tro cyntaf.
Ond beth yn union yw padel?
Mae'n cael ei chwarae gan tua 25 miliwn o bobl mewn 90 o wledydd, ac yn un o'r campau sy'n tyfu mewn poblogrwydd gyflymaf ar draws y byd.
Fe gafodd ei ddyfeisio ym Mecsico yn 1969 ac mae'n boblogaidd iawn yn Sbaen a nifer o wledydd De America.
Ers y cyfnod clo, mae wedi tyfu mewn poblogrwydd yng Nghymru hefyd.
Mae padel yn gêm i bedwar person ac mae'r ardal chwarae tua traean maint cwrs tenis arferol.
Er bod y system sgorio yr un peth yn ogystal â'r rhwyd a'r peli, mae'r gwydr ar gefn cwrt padel yn wahanol ac yn debyg i sboncen, gall chwaraewyr ei ddefnyddio er mwyn ennill pwyntiau.
Dywedodd Megan Jones o Tenis Cymru mai "padel yw un o'r gemau sy'n tyfu cyflyma' ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig, a dyna un o'r prif bethau 'da ni'n trafod efo'r clybiau ar hyn o bryd.
"Ma’ diddordeb mawr i dyfu'r gêm a dyfu'r chwaraeon yn eu ardal nhw."
Mae un cwrs ym Mhenarth a dau arall yng Nghwmbrân, a'r nôd, yn ôl Megan, yw i "dyfu'r gêm a wedyn gobeithio dros y blynyddoedd nesa' wedyn, cynyddu nifer y cyrsiau ar draws y wlad a jyst rhoi cyfle i bobl chwarae rhywle sy'n agos i nhw”.
Mae’r bencampwriaeth tenis yn ceisio bod yn fwy cynhwysol eleni hefyd ac ychwanegodd Megan bod hynny yn bwysig iawn.
"Ma' 'da ni cwpl o ddigwyddiadau newydd yn rhan o'r twrnament eleni. Ma' 'da ni digwyddiad cadair olwyn i blant, mwy o ddyblau cymysg, digwyddiad newydd sbon i bobl gyda nam golwg a hefyd adran oedran hŷn.
"Ni rili ishe'r digwyddiad fod yn ddathliad mawr o tenis yng Nghymru a i wneud hwnna oedd e'n rili bwysig i apelio at fwy o bobl be’ bynnag oedd gallu nhw, pa bynnag oedran, pa bynnag cefndir."