Taith arbennig i godi arian at sefydlu ysgol uwchradd newydd yn Y Wladfa
Taith arbennig i godi arian at sefydlu ysgol uwchradd newydd yn Y Wladfa
Mae taith arbennig yn cael ei threfnu er mwyn codi arian at sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg newydd ym Mhatagonia yn Yr Ariannin.
Bydd cyfle i bobl ar hyd a lled Cymru gael y cyfle i deithio o Gymru i'r Wladfa y flwyddyn nesaf er mwyn codi arian at sefydlu ysgol uwchradd newydd yn Nhrevelin.
Fe gafodd Ysgol y Cwm ei sefydlu fel ysgol gynradd yn Y Wladfa yn 2016, ac fe agorodd ei drysau i gychwyn gyda 35 o blant.
Erbyn heddiw, mae bron i 150 o blant yn mynychu’r ysgol, gyda’r rhai hynaf bellach yn symud ymlaen i’r ysgol uwchradd.
'Dim darpariaeth iaith Gymraeg'
Dywedodd un o lywodraethwyr yr ysgol, Gwion Elis-Williams, bod y diffyg darpariaeth addysg uwchradd yn y Gymraeg yn rhwystro disgyblion rhag parhau â'u haddysg yn yr iaith ar hyn o bryd.
“Mae’r garfan gyntaf oedd wedi cychwyn yn ôl yn 2016, ma’ nhw bellach ym mlwyddyn 6 ag ar hyn o bryd, does 'na ddim darpariaeth iaith Gymraeg iddyn nhw yn yr ysgolion uwchradd.”
"Y bwriad ydy sefydlu ysgol uwchradd yma yn Nhrevelin, ysgol uwchradd ddwyieithog fydd hi drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Sbaeneg ond mi fydd y ddarpariaeth yna iddyn nhw gael parhau gyda’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg."
Amcan y daith ydy codi arian ar gyfer sefydlu ysgol uwchradd ddwyieithog newydd drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Sbaeneg.
Er bod hyn yn gynllun tymor-hir, ychwanegodd Gwion y byddai modd i ddisgyblion sy'n mynd i'r uwchradd barhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ffordd wahanol yn y tymor byr.
"Ar y cychwyn, yn amlwg does genna ni ddim adeilad wedi cael ei hadeiladu ar hyn o bryd felly adeilad presennol Ysgol Y Cwm fydd yr ysgol uwchradd.
"Mae hyn yn digwydd mewn lot o ysgolion ledled Yr Ariannin i ddweud y gwir, fydd y plant bach yn mynychu yn y boreau ac wedyn yn y prynhawn, fydd y bobl ifanc a’r plant hŷn yn dod i mewn i gael eu gwersi gan gynnwys gwersi Cymraeg."
'Cael eu cyfri fel oedolion sy'n siarad Cymraeg yn rhugl'
Mae Margarita Green yn un o sefydlwyr Ysgol y Cwm, a dywedodd bod yr ysgol yn greiddiol i Gymraeg y disgyblion.
"Pan mae’r plant yn yr ysgol, ‘da ni’n trio iddyn nhw siarad Cymraeg efo’r athrawon, ac wedyn pan ma’ nhw’n chwara' allan neu pan ma’ nhw’n gwrando ar gerddoriaeth, ma’ nhw’n dysgu caneuon i gystadlu yn yr Eisteddfod neu ddysgu adrodd a ma’r sŵn yna yn yr ysgol.
"Ond unwaith ma’ nhw’n mynd adref ag yn enwedig yn y pandemia, oedda nhw’n mynd a ddim yn gwrando gair o Gymraeg ac felly o’n i’n teimlo bo’ nhw wedi colli ‘chydig bach."
Ychwanegodd y byddai hi wrth ei bodd yn gweld y disgyblion sy'n dysgu Cymraeg yn ysgolion Trelew, Gaiman a Threvelin yn "cael eu cyfri fel oedolion sy'n siarad Cymraeg yn rhugl."
Mae Margarita yn gobeithio y bydd Ysgol y Cwm, yn y cynradd yn ogystal â'r uwchradd, yn mynd o nerth i nerth.
"Baswn i’n hoffi gweld mewn chwe mlynedd yr ysgol (uwchradd) wedi dechre adeiladu a’r plant sy’n gadael yr ysgol gynradd rwan yn gal’u graddio yn yr ysgol uwchradd."
'Un o egwyddorion o sefydlu Ysgol y Cwm'
Yn ôl Gwion, bydd y daith hefyd yn cynnig cyfleoedd amhrisiadwy megis "ymweld â rhei o safleoedd pwysig yn hanes Y Wladfa, capeli, ysgolion, yn enwedig Ysgol y Cwm ble fydd na gyngherdda yn cael eu cynnal a fydd ‘na gyfle i ymweld â ffermydd Y Wladfa a phrofi bwyd traddodiadol felly cyfle i fwynhau diwylliant, hanes a bywyd gwyllt Y Wladfa.”
Dywedodd Gwion bod parhau i gynnig darpariaeth yn y Gymraeg yn hollbwysig.
"Dwi’n meddwl bod o’n hollbwysig bod y plant yn cael cyfla i barhau gyda’u addysg Gymraeg a parhau i ddysgu’r iaith a parhau i gymryd mantais o’r holl gyfleoedd sydd ar gael drwy ddysgu Cymraeg hefyd.
"Ma’n mynd yn ôl i’r un egwyddorion o sefydlu Ysgol y Cwm yn y lle cyntaf, a mi fysa’n bechod rwan bod ‘na blant sy ym mlwyddyn 6 hefo lefel arbennig o Gymraeg yn stopio."