Rhybuddion am wynt a glaw wrth i Storm Benjamin daro

Rhybudd tywydd 23 Hydref 2025

Mae rhybuddion melyn am wynt a glaw all achosi trafferthion i deithwyr ar draws Cymru ddydd Iau, wrth i Storm Benjamin daro. 

Mae’r Swyddfa Dywydd yn dweud bod y tywydd garw “yn debygol” o achosi oedi ar y ffyrdd yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus. 

Mae'r rhybudd am law yn ei le rhwng 00.00 fore Iau a 21:00 yr hwyr.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhwng 20-30 mililitr o law ddisgyn yn siroedd y de, gyda 30-50 mililitr o law mewn rhai ardaloedd.

Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd bod posibilrwydd o lifogydd ac y gallai'r glaw effeithio ar wasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus.

Fe fydd y rhybudd am law yn y de yn effeithio ar y siroedd canlynol: Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy a Thorfaen.

Mae rhybudd melyn am wynt hefyd mewn grym ar gyfer nifer o siroedd rhwng 06:00 a 15:00 ddydd Iau.

Mae disgwyl gwyntoedd rhwng 40-45 mya, gyda hyrddiadau o hyd at 55 mya mewn rhai ardaloedd arfordirol.

Mae disgwyl i'r rhybuddion am wynt a glaw effeithio ar wasanaethau trên a bysiau, gyda'r Swyddfa Dywydd yn awgrymu y dylai teithwyr baratoi ar gyfer teithiau hirach o ganlyniad.

Hefyd fe allai'r sefyllfa effeithio ar gyflenwadau trydan.

Bydd y rhybudd melyn am wynt yn effeithio ar y siroedd canlynol: Abertawe, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.