Ymchwilio i ddifrod troseddol honedig mewn ysgol yn y gogledd
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i adroddiadau o ddifrod troseddol mewn ysgol yn Sir Conwy.
Digwyddodd y difrod yn Ysgol y Creuddyn ym Mae Penrhyn ddydd Mawrth, pan gafodd peiriannau contractwyr eu difrodi ar dir yr ysgol.
Dywedodd yr Arolygydd Mat Kelly-Smith o Heddlu'r Gogledd: “Mae ymholiadau’n parhau i sefydlu achos y difrod i ddyfais laser a ddefnyddir mewn prosiectau adeiladu.
“Roedd y ddyfais hon yn cael ei defnyddio gan gontractwyr sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar dir Ysgol y Creuddyn.
“Hoffwn sicrhau trigolion sy’n byw gerllaw fod hwn yn ymddangos fel digwyddiad ynysig, ac nad ydym wedi derbyn unrhyw adroddiadau pellach am ddigwyddiadau tebyg yn yr ardal.
“Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld ymddygiad amheus ger Clôs Rhys Evans ar ddiwrnod y digwyddiad. Gallai hyd yn oed manylion bach helpu ein hymchwiliad.”
Mae modd rhannu gwybodaeth gyda'r heddlu ar-lein neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu cyfeirnod C164049.