Anhrefn Trelái: Chwech yn euog o achosi terfysg
Mae chwech o bobl wedi eu cael yn euog o achosi terfysg wedi marwolaethau dau fachgen yn ardal Trelái, Caerdydd yn 2023.
Roedd anhrefn ar strydoedd Trelái ar 22 Mai 2023 yn dilyn marwolaethau dau fachgen ifanc, Kyrees Sullivan, 16 oed, a Harvey Evans, 15 oed, mewn gwrthdrawiad.
Dangosodd delweddau CCTV fan Heddlu De Cymru yn dilyn y bechgyn ar feiciau trydan cyn iddyn nhw fod mewn gwrthdrawiad yn ddiweddarach.
Wrth i densiynau gynyddu rhwng pobl leol a’r heddlu, cafodd dwsinau o blismyn eu hanafu a chafodd ceir eu rhoi ar dân.
Cafwyd Lee Robinson, 38, o Gaerau, Zayne Farrugia, 25, o Gaerau, Jordan Bratcher, 27, o Lanisien, Jaydan Baston, 21, o Gaerau, Connor O'Sullivan, 26, o Drelái a Luke Williams, 31 oed, o Gaerau i gyd yn euog o gyhuddiad o derfysg.
Cafwyd McKenzie Danks, 22, o Gaerau yn ddi-euog o'r un cyhuddiad, ond roedd eisoes wedi cyfaddef i ddau gyhuddiad o ymosod ar blismon.
Cafodd y diffynyddion eu rhyddhau ar fechnïaeth a byddant yn cael eu dedfrydu yn ddiweddarach gan y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke.