Isetholiad Caerffili: Y gorsafoedd pleidleisio ar agor
Fe fydd pleidleiswyr Caerffili'n bwrw pleidlais mewn isetholiad ddydd Iau, er mwyn dewis aelod newydd o Senedd Cymru.
Cafodd yr isetholiad ei drefnu yn dilyn marwolaeth yr alelod blaenorol o'r Senedd, Hefin David, ar ddiwedd mis Awst.
Fe fydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor am 07:00 ac yn cau am 10:00.
Yr ymgeiswyr ar ran y pleidiau yw Richard Tunnicliffe (Llafur Cymru), Lindsay Whittle (Plaid Cymru), Gareth Potter (Ceidwadwyr Cymreig), Llŷr Powell (Reform UK), Gareth Hughes (Plaid Werdd Cymru), Steven Aicheler (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru), Roger Quilliam (UKIP) ac Anthony Cook (Gwlad).