Carcharu dyn o Fethesda am anafu dau ffrind mewn damwain ffordd

Morgan Edwards

Cafodd gyrrwr ifanc “gwallgof” ei ffilmio ar gyfer Snapchat gan deithiwr pan oedd yn gyrru 130mya ar ffordd ddeuol oriau cyn iddo anafu dau ffrind yn ddifrifol mewn gwrthdrawiad.

Cafodd Morgan Edwards, 20 oed, o Fethesda, Gwynedd, ei garcharu am 28 mis yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau. 

Cyfaddefodd ei fod wedi achosi anafiadau difrifol i Kieran Owen a Dilyn Bayley trwy yrru'r car VW Golf TDI yn beryglus ar hyd Ffordd Ffriddoedd, Bangor, ar 2 Mawrth y llynedd.

Cafodd ei wahardd rhag gyrru am 50 mis ac fe fydd yn rhaid iddo gymeryd prawf gyrru estynedig ar ddiwedd y cyfnod hwn.

Dywedodd y Barnwr Nicola Jones wrth y llys fod Edwards wedi honni ei fod wedi cael ei ddylanwadu ar y noson gan ei gyd-deithwyr ifanc. 

Ond dywedodd y rhai oedd yn y car gydag ef eu bod wedi gweiddi arno i arafu.

Anafiadau

Cafodd Mr Owen anafiadau i'w wyneb a gwaedu ar yr ymennydd ar ôl i flwch dal offer adeiladu oedd yn rhydd yn y car ei daro. 

Roedd wedi bod yn focsiwr ac yn bêl-droediwr addawol cyn y digwyddiad, gyda'i fryd ar ymuno â'r fyddin.

Dywedodd y Barnwr Jones: “Roedd hwn yn benderfyniad bwriadol i anwybyddu rheolau’r ffordd fawr.”

Clywodd y llys fod gan Edwards drwydded lawn ers mis Gorffennaf 2023. 

Difrodi car arall

Roedd Edwards wedi cael y Golf TDI mwy pwerus ar ôl iddo ddifrodi Ford Fiesta yn llwyr, ac roedd hefyd wedi addasu'r Golf i gynyddu ei gyflymder.

Cyn y ddamwain ym Mangor roedd wedi cyrraedd 85mya mewn ardal breswyl gyda therfyn cyflymder o 20mya. 

Roedd meddyg yn teithio mewn car arall wedi bod yn tynnu allan o gyffordd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Dywedodd yr erlynydd Ember Wong fod y diffynnydd wedi bwriadu gyrru o dan bont reilffordd i ddangos sŵn ei gar pan yrrodd car Nissan yn agos y tu ôl iddo. 

Dywedodd y cyfreithiwr: “Ymddengys bod y diffynnydd wedi dehongli hynny fel her a gollwng gêr ei gerbyd er mwn cyflymu i ffwrdd, gan gyrraedd 85mya er gwaethaf y ffaith bod ei deithwyr yn gweiddi arno i arafu.”

Disgrifiodd un tyst ei yrru’n “wallgof” cyn y gwrthdrawiad.

Dywedodd Richard Edwards, ar ran yr amddiffyniad: “Mae hon yn drosedd sy'n deillio o ffolineb anaeddfed ac awydd i greu argraff. 

"Mae’n derbyn cyfrifoldeb am ei weithredoedd. Mae’n difaru’r hyn sydd wedi digwydd.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.