Tonysguboriau: Dyn yn pledio'n euog i lofruddio Joanne Penney
Mae dyn wedi pledio'n euog i lofruddiaeth menyw gafodd ei saethu yn farw yn Nhonysguboriau yn gynharach eleni.
Roedd Marcus Huntley, sy'n 21 oed, wedi gwadu llofruddiaeth, ond newidiodd ei ble yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau.
Roedd Huntley ar brawf ochr yn ochr â phum diffynnydd arall yn dilyn y digwyddiad yn Rhondda Cynon Taf.
Clywodd y rheithgor ddydd Mercher fod Huntley wedi tanio'r ergyd a laddodd Joanne Penney ar 9 Mawrth, ar ôl i Ms Penney agor y drws yn 10 Llys Illtud.
Dywedodd yr erlynydd Jonathan Rees KC fod Huntley wedi "plygu ymlaen a saethu ar unwaith at y person a agorodd y drws" ar ôl i gyd-ddiffynnydd guro'r drws.
Clywodd y rheithgor yn gynharach fod y farwolaeth wedi digwydd yn ystod "gwrthdaro rhwng dau grŵp troseddau cyfundrefnol".
Honnir bod y grŵp “Rico” eisiau “dangos ei rym” i gang troseddol arall, ar ôl dioddef dau achos o godi “cywilydd” arnynt yn yr wythnosau blaenorol.
Mae Joshua Gordon, 27; Melissa Quailey-Dashper, 40; Kristina Ginova, 21; a Tony Porter, 68, i gyd o Sir Gaerlŷr, yn gwadu llofruddiaeth a chymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol.
Mae Jordan Mills-Smith, 33, o Gaerdydd, yn gwadu llofruddiaeth.
Roedd Mills-Smith a Huntley wedi pledio’n euog yn flaenorol i gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol.
Ar ôl cyfarwyddo’r rheithgor i ddychwelyd rheithfarn euog yn ffurfiol yn erbyn Marcus Huntley ar y cyhuddiad o lofruddiaeth, dywedodd Mr Ustus Fordham wrth y diffynnydd: “Rydych wedi cael eich heuogfarnu gan y rheithgor o lofruddiaeth ar sail eich ple heddiw o fod yn euog.
“Byddwch yn cael eich cadw yn y ddalfa tra byddwch yn disgwyl dedfryd yn y llys hwn.”