Gohirio trenau a gwagio sawl adeilad ar ôl darganfod hen fom rhyfel

Llun: Google
Ffordd Ochr Rad Pen-y-bont ar Ogwr

Cafodd gwasanaethau trên eu gohirio a sawl adeilad eu gwagio ar ôl i hen fom rhyfel gael ei ddarganfod yn ne Cymru ddydd Iau.

Fe gafodd gwasanaethau rhwng gorsafoedd Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr eu gohirio ar ôl i hen fom rhyfel gael ei ddarganfod ar Ffordd Ochr Rad yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bellach mae'r gwasanaethau trên wedi dychwelyd i redeg fel yr arfer, ond mae'n bosibl y bydd trenau rhwng Caerdydd a Llanilltud Fawr/Abertawe yn cael eu gohirio neu eu canslo.

Mewn datganiad fe ddywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi derbyn adroddiadau am fom rhyfel ar Ffordd Ochr Rad am 13:10.

Roedd angen cau'r ffordd ym Mhen-y-b0nt ar Ogwr ac roedd y llu yn annog pobl i osgoi ardaloedd cyfagos gan gynnwys Stryd Brackla a Ffordd Tremains.

Ychwanegodd y llu bod siopau Aldi, Asda ac adeiladau Brackla House a'r safle adeiladu ar Ffordd Ochr Rad wedi cael eu gwagio er diogelwch y cyhoedd.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.