Cyhuddo trydydd dyn mewn cysylltiad ag achos honedig o saethu

Maesglas

Mae trydydd dyn wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad ag achos honedig o saethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Roedd y digwyddiad yn ymwneud â dryll mewn eiddo ym Maes Glas, Pîl ddydd Llun Medi 22.

Mae Daniel Clarke, 20, o Ben-y-bont ar Ogwr wedi'i gyhuddo o:

  • Fod â ddryll gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
  • Cynllwynio i achosi trais rhywiol difrifol.
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp troseddol cyfundrefnol.
  • Fod â dryll wedi'i lwytho/dadlwytho a bwledi addas mewn man cyhoeddus.
  • Bod yn rhan o gyflenwi cyffur rheoledig dosbarth B.

Mae wedi'i gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd dydd Gwener.

Fe wnaeth dau ddyn arall, Kian Darkes, 20 oed, a Kyle Long, 39 oed, ymddangos yn y llys mewn cysylltiad â’r achos ar 8 Hydref.

Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa bryd hynny tan eu hymddangosiad llys nesaf yn Llys y Goron Caerdydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.