Is-etholiad Caerffili: Plaid Cymru yn 'hapus' ond y bleidlais yn 'agos'

Gwylio y pleidleisiau yn cael eu cyfri'

Mae ymgeisydd Plaid Cymru yn is-etholaid Caerffili wedi dweud ei fod yn "hapus" ond bod nifer y pleidleisiau yn "agos" rhyngddo ag ymgeisydd plaid Reform UK.

Daw ei sylwadau wrth i'r swyddog canlyniadau ddweud bod canran uwch wedi pleidleisio yn isetholiad Caerffili nag erioed o'r blaen mewn etholiad i'r Senedd yn yr etholaeth.

Roedd 50.43% o'r etholwyr wedi pleidleisio, neu 33, 736 o bobl. Dim ond 44% a bleidleisiodd yn 2021.

Bydd yr is-etholiad yn dewis aelod newydd i gynrychioli’r etholaeth yn Senedd Cymru.

Wrth siarad yn y cyfrif yng Nghaerffili, dywedodd Lindsay Whittle, ymgeisydd Plaid Cymru, fod pleidlais y Blaid Lafur yn yr etholaeth wedi “diflannu”.

Dywedodd: “Rwy’n llawen iawn, yn gyffrous, mae’r cyfrif yn edrych yn iawn, dydw i ddim yn cael dweud llawer mwy na hynny."

Image
Llŷr Powell
Ymgeisydd Reform, Llŷr Powell

Dywedodd ymgeisydd Plaid Reform, Llŷr Powell ei fod yn "agos iawn".

"Mae wedi bod yn ymgyrch anodd," meddai. "Ond rydw i'n falch o'r ymgyrch rydyn ni wedi ei chynnal."

Image
Huw Irranca-Davies
Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies

'Ergyd go iawn'

Mae’r Blaid Lafur wedi ennill pob etholiad yng Nghaerffili yn y Senedd ers dechrau datganoli, a phob etholiad yn San Steffan ers i’r etholaeth gael ei chreu yn 1918.

Ond disgwyl dod yn drydydd oedd ffynonellau o fewn y Blaid Lafur nos Iau.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, sy'n Aelod o Senedd Cymru i'r Blaid Lafur, ei fod wedi bod yn "is-etholiad anodd" ond "nad yw'r pleidleisiau wedi eu cyfri' eto".

"Mae wedi bod yn is-etholiad pegynnol iawn," meddai. "Mae mewnfudo wedi bod yn bwnc llosg."

Ychwanegodd: "Byddai dod yn drydydd fel mae'r arolygon barn yn ei awgrymu yn ergyd go iawn i ni.

"Fe wnaethon ni frwydro ymgyrch dda gydag ymgeisydd da."

Mae disgwyl y bydd y canlyniad yn un agos, gyda phlaid Reform UK a hefyd Plaid Cymru yn obeithiol o gipio'r sedd.

Roedd arweinwyr y pleidiau rheini, Nigel Farage a Rhun ap Iorwerth, yn ymgyrchu yno ddydd Iau.

Mae'r arbenigwr gwleidyddol blaenllaw, yr Athro Richard Wyn Jones wedi dweud ei fod yn bosib mai dyma fydd yr isetholiad mwyaf arwyddocaol ers Caerfyrddin yn 1966 pan gafodd Gwynfor Evans ei ethol i San Steffan.

Dywedodd Laura McAllister, cyd-Athro iddo yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru sy'n rhan o Brifysgol Caerdydd: “Does dim amheuaeth yn fy meddwl ein bod ni'n gweld newid sylfaenol yng ngwleidyddiaeth Cymru.”

Image
Pennaeth polisi Reform UK Zia Yusuf a Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru Delyth Jewell
Pennaeth polisi Reform UK Zia Yusuf a Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru Delyth Jewell

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru, Delyth Jewell bod "Plaid Cymru yn mynd i wneud yn dda iawn, hyd yn oed os ydi Reform yn ennill".

"Dwi'n credu fod hynny yn mynd i ganolbwyntio meddyliau pobl cyn yr etholiad y flwyddyn nesaf."

Dywedodd pennaeth polisi Reform UK, Zia Yusuf, ei fod yn ddiwrnod "hanesyddol" i Gymru.

Wrth siarad â GB News dywedodd ei fod yn "foment mawr" i blaid Reform wrth iddi frwydro yn erbyn Plaid yn yr etholaeth.

"Bydd y Blaid Lafur a'r Blaid Dorïaidd, y ddwy hen blaid fawr sydd wedi dominyddu gwleidyddiaeth yn y DU, yn ei chael hi'n anodd cael hyd yn oed chwarter y bleidlais heddiw," meddai.

Image
Lindsay Whittle a Gareth Hughes, ymgeiswyr Plaid Cymru a'r Blaid Werdd yn y cyfri'
Lindsay Whittle a Gareth Hughes, ymgeiswyr Plaid Cymru a'r Blaid Werdd

Roedd cyfle i etholwyr bleidleisio rhwng 7.00 y bore a 10.00 yr hwyr, ac mae disgwyl y canlyniad yn oriau mân bore dydd Gwener.

Cafodd yr is-etholiad ei drefnu yn dilyn marwolaeth yr aelod blaenorol o’r Senedd, Hefin David, ar ddiwedd mis Awst.

Cyn ei farwolaeth roedd gan y Blaid Lafur 30 o'r 60 sedd yn y Senedd. Byddai colli sedd arall o bosib yn ei wneud yn anoddach ennill pleidleisiau yn y ddeddfwrfa, gan gynnwys un hollbwysig ar gyllideb Cymru.

Bydd yr is-etholiad yn llenwi’r swydd wag tan fis Mai 2026 yn unig, pan fydd etholiad ar gyfer Senedd Cymru yn ei chyfanrwydd.

Bryd hynny bydd etholaeth Caerffili yn dod i ben, a bydd yr etholaeth newydd Blaenau Gwent Caerffili Rhymni yn cael ei chynrychioli gan chwe aelod.

Image
Caerffili
Castell Caerffili ddydd Iau. Llun gan Andrew Matthews / PA.

Yr ymgeiswyr ar ran y pleidiau ddydd Iau oedd:

  • Richard Tunnicliffe (Llafur Cymru)
  • Lindsay Whittle (Plaid Cymru)
  • Gareth Potter (Ceidwadwyr Cymreig)
  • Llŷr Powell (Reform UK)
  • Gareth Hughes (Plaid Werdd Cymru)
  • Steven Aicheler (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)
  • Roger Quilliam (UKIP)
  • Anthony Cook (Gwlad)

Llun gan Andrew Matthews / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.