Cerddwr wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar yn Rhondda Cynon Taf

Llantrisant

Mae person wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Heol-y-Sarn yn Llantrisant am 17.55 ddydd Mercher i ymateb wrthdrawiad rhwng car a cherddwr.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r cerddwr yn y fan a'r lle. 

Mae teulu'r person a fu farw wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae'r llu yn ymchwilio i'r digwyddiad ac wedi dweud eu bod yn awyddus i siarad gyda pherson mewn dillad 'high-vis' oren, a wnaeth siarad â'r person ychydig cyn y digwyddiad.

Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth neu luniau 'dashcam' gan unrhyw un oedd yn teithio'n agos i gylchfan Ynysmaerdy ar ffordd yr A4119, ger Heol-y-Sarn, i gysylltu gyda nhw.

Mae modd rhannu gwybodaeth drwy gysylltu â Heddlu De Cymru a dyfynu'r cyfeirnod 2500338095.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.