Ymchwiliad i'r defnydd o osod maglau anghyfreithlon yn Sir Ddinbych

Llwynog

Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i gamera cudd ddal y foment y cafodd maglau neu drapiau anifeiliaid anghyfreithlon eu gosod mewn coedwig yn y gogledd. 

Cafodd y delweddau eu ffilmio ar gyrion Rhos Rhiwabon yng nghoedwig Llandegla yn Sir Ddinbych. 

Mae’n ymddangos fel petai unigolion yn gwirio ac yn gosod maglau ger cyrff anifeiliaid er mwyn denu anifeiliaid eraill yno. 

Cafodd maglau a thrapiau glud eu gwahardd gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2023. 

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gymryd camau yn erbyn y defnydd o faglau. 

Fe wnaeth Llywodraeth yr Alban eu gwahardd ym mis Tachwedd y llynedd. 

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Heddlu’r Gogledd eu bod yn ymchwilio yn dilyn y defnydd honedig o faglau yn yr ardal. 

“Mae swyddogion o Dîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio yn dilyn honiadau bod maglau anghyfreithlon wedi’u defnyddio mewn coetir ger Llandegla,” meddai llefarydd. 

“Mae’r ymchwiliad yn parhau.”

'Creulondeb canoloesol'

Mae’r delweddau honedig yn dangos pobl yn gosod pedwar o faglau ger cyrff anifeiliaid ar 28 Mehefin 2025. 

Roedd pobl yn ymddangos fel eu bod yn ymweld â’r ardal er mwyn gwirio ac ail-osod y maglau rhwng 30 Mehefin a 15 Awst. 

Cafodd Heddlu’r Gogledd wybod am y delweddau gan elusen Green Britain Foundation ar 25 Awst. 

Dywedodd sylfaenydd yr elusen, Dale Vince, ei fod yn “croesawu” ymchwiliad yr heddlu. 

Mae maglau yn aml yn cael eu defnyddio er mwyn lladd anifeiliaid gwyllt er mwyn galluogi adar i fridio. 

“Mae maglau’n greulondeb canoloesol. Fe wnaeth Cymru a’r Alban eu gwahardd am reswm da,” meddai Mr Vince.  

Ychwanegodd eu bod nhw’n lladd “pob math o fywyd gwyllt” yn y ffordd “mwyaf creulon ac erchyll.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.