Trump yn targedu Rwsia gyda mesurau newydd
Mae Arlywydd yr UDA, Donald Trump, wedi cyhoeddi mesurau yn erbyn Rwsia wrth geisio rhoi pwysau ar y wlad i ddod i gytundeb heddwch ag Wcráin.
Mae America wedi gosod sancsiynau yn targedu dau gwmni olew mwyaf Rwsia – Rosneft a Lukoil, a hynny ar ôl i Trump gyhoeddi y byddai’n gohirio trafodaethau gydag Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, yn Budapest.
Daw wedi i Rwsia barhau ag ymosodiadau bomio dwys yn Wcráin ddydd Mercher, gan ladd saith o bobl, gan gynnwys tri o blant.
“Pob tro rwy’n siarad â Vladimir, rwy’n cael sgyrsiau da ond dydyn nhw ddim yn mynd i unman. Dydyn nhw ddim yn mynd i unman,” meddai Trump, ar ôl cyfarfod â Nato am drafodaethau heddwch.
Dywedodd Ysgrifennydd Trysorlys America, Scott Bessent: “Nawr yw’r amser i stopio’r lladd ac am gadoediad ar unwaith.”
Wrth annerch y wasg, dywedodd Trump fod y pecyn o sancsiynau yn “enfawr” gan ddweud y byddent yn cael eu tynnu’n ôl pe bai Rwsia yn cytuno i ddod a’r rhyfel i ben.
“O’n i’n teimlo ei bod hi’n amser. Rydyn ni wedi disgwyl am gyfnod hir.”
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Nato, Mark Rutte, mai nod y sancsiynau yw “i roi rhagor o bwysau” ar Putin.
“Mae’n rhaid i chi roi pwysau a dyna mae e wedi gwneud heddiw,” meddai Rutte.
Mae Ysgrifennydd Gwladol America, Marco Rubio, wedi dweud bod y wlad yn parhau’n awyddus i gynnal trafodaethau.
Roedd Trump eisoes wedi galw ar Rwsia i “fynd adref. Stopio’r brwydro a stopio lladd pobl.”
Mae Rwsia wedi gwrthod yr awgrym, gyda llefarydd ar ran y Kremlin, Dmitry Peskov yn dweud nad yw “cysondeb safle Rwsia yn newid”, gan gyfeirio at ei bwriad i feddiannu ardal y Donbas yn nwyrain Wcráin.